Marwolaeth beic cwad: Arestio dyn

y gwrthdrawiad ger Llangadog
Image caption Digwyddodd y gwrthdrawiad ger Llangadog

Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl gwrthdrawiad angheuol yn ymwneud â beiciau modur a beic cwad mewn coedwig yn Sir Gaerfyrddin.

Fe ddioddefodd John Griffiths, 44 oed, o ardal Ciliau Aeron yng Ngheredigion, anafiadau angheuol yn y gwrthdrawiad ger Llangadog am 16:40 ddydd Sul.

Mae dyn 22 oed o Hwlffordd, Sir Benfro, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod yr ymchwiliad yn parhau.

Mae swyddogion wedi apelio am unrhyw dystion oedd yn ardal y goedwig ger Plas Cilgwyn i gysylltu â nhw ar 101.