Nodyn Charles i Aberfan wedi ei ddychwelyd ar ôl diflannu

Tywysog Charles

Mae nodyn gan y Tywysog Charles a ddiflannodd o dorch ym Mynwent Aberfan wedi cael ei ddychwelyd ddydd Gwener.

Fe gafodd y neges ddwyieithog, oedd wedi ei hysgrifennu gyda llaw, ei gosod ddydd Gwener ddiwethaf gan y Tywysog yn ystod seremoni cofio 50 mlynedd ers y drychineb yn y pentref, ond diflannodd y nodyn ddydd Sul diwethaf.

Dywedodd David Davies, cadeirydd ymddiriedolwyr Elusen Goffa Aberfan, fod y nodyn wedi cael ei ddychwelyd yn ddienw i'r heddlu.

Yn y cyfamser, mae'r Tywysog wedi anfon neges arall yn lle'r un cafodd ei chymryd, ond nawr fe fydd y ddwy neges yn cael eu cynnwys mewn llyfr coffa fydd yn cael ei arddangos yn llyfrgell Aberfan.

Image caption Y Prif Arolygydd Lamerton a David Davies gyda'r nodyn gan y Tywysog

Dywedodd Mr Davies: "Ar un llaw, rwy'n drist bod rhywun wedi penderfynu ei gymryd yn y lle cyntaf.

"Ond rwy'n falch bod ganddynt rywfaint o gydwybod, wedi ei ysgogi o bosib gan sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol."

Mae Heddlu De Cymru wedi bod yn ymchwilio i'r digwyddiad.

Ddydd Gwener ddiwethaf, fe dreuliodd y Tywysog Charles amser gyda theuluoedd y rhai a fu farw yn y drychineb cyn mynd i dderbyniad lle llofnododd y llyfr coffa.

Roedd hefyd wedi darllen neges oddi wrth y Frenhines, a ddywedodd fod y drychineb wedi "profi ysbryd y gymuned".

Straeon perthnasol