Gyrrwr lori wedi marw mewn gwrthdrawiad ger Pen-y-bont

Goetre-hen Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ym mhentref Goetre-hen

Mae'r heddlu wedi cadarnhau bod gyrrwr lori wedi ei ladd yn dilyn gwrthdrawiad prynhawn ddydd Mercher ger Pen-y-bont.

Roedd y dyn 52 oed yn gyrru peiriant cymysgu sment pan gollodd reolaeth o'r cerbyd, gan daro tri char oedd wedi parcio ger ochr y ffordd ym mhentref Goetre-hen.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad am tua 14:30 ar ffordd yr A4063.

Roedd dynes 29 oed oedd yn un o'r ceir gafodd eu difrodi wedi cal man anafiadau, ond ar ôl cael ei chludo i'r ysbyty i dderbyn triniaeth fe gafodd ei rhyddhau.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod gyrrwr y lori wedi marw yn y fan a'r lle. Maen nhw wedi penodi swyddog i gynnig cefnogaeth i deulu'r dyn, ac maen nhw wedi apelio am unrhyw dystion welodd y lori cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw.