Marwolaeth Llandaf: Dyn yn gwadu llofruddio ei gariad

Xixi Bi Image copyright Wales News Service
Image caption Bu farw Xixi Bi ym mis Awst yn y tŷ ar Heol Ely yn Llandaf

Mae dyn 23 oed wedi gwadu llofruddio ei gariad ar ôl iddi gael ei darganfod yn farw yn eu cartref yng Nghaerdydd.

Mae Jordan Matthews wedi ei gyhuddo o lofruddio Xixi Bi, 24 ac yn wreiddiol i China, ar ôl i barafeddygon ddarganfod ei chorff yn y tŷ yn Llandaf ar 19 Awst.

Mewn gwrandawiad byr yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau fe wnaeth Mr Matthews bledio'n ddieuog i'w llofruddio, ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa nes achos llys ym mis Chwefror 2017.

Roedd Mr Matthews wedi bod mewn perthynas â Miss Bi ers blwyddyn wedi iddi ddod i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cafodd Miss Bi ei magu yn Nanjing ac fe astudiodd yn Rhydychen am gyfnod cyn symud i Gymru.