Ddim yn 'Cool Cymru'

Cool Cymru

Ugain mlynedd yn ôl roedd bandiau roc a phop Cymru yn gwneud enw iddyn nhw eu hunain ar y llwyfan rhyngwladol.

Yr wythnos hon bydd cyfres newydd yn dechrau ar S4C yn edrych ar ddylanwad bandiau fel Manic Street Preachers, Stereophonics, Super Furry Animals a Catatonia yn y 90au - cyfnod sy'n aml yn cael ei ddiffinio o dan y term 'Cool Cymru'.

Dyma deitl y gyfres hefyd - ond os welwch chi'r hysbysebion ar S4C, efallai i chi sylwi ar sylwadau Dafydd Ieuan o'r Super Furry Animals: "Be' oeddan nhw'n alw fo - Cool Cymru ne' wbath ia? Ridiculous."

Felly, ydy'r term 'Cool Cymru' yn rhywbeth mae'r cerddorion yn hapus i uniaethu ag o, neu ydy'r term yn naff?

"Yndi," meddai Cian Ciarán, hefyd o'r Super Furries. "Yn yr un ffordd a ma' Brit Pop yn naff.

"Maen nhw'n dermau sy'n cyfleu petha' eitha' insular, hunan-bwysig iawn. Doedd o ddim yn rwbath oeddan ni'n uniaethu efo fo. Dwi'n meddwl ei fod o'n derm lle roedd y wasg miwsig yn bod yn ddiog.

"Dydi o ddim chwaith yn rwbath ti'n feddwl amdano fo tra ti yna ar y pryd. Roedd y Furries mewn ffordd yn ymateb i Brit Pop - doeddan ni ddim yn rhan o'r nonsens chwifio fflag yr Union Jack - oeddan ni jest yn creu miwsig."

Image caption Mae'r Super Furry Animals yn parhau i fod yn boblogaidd heddiw - dyma nhw yng ngŵyl Glastonbury y llynedd

Dywedodd DJ BBC Radio 1 a Radio Cymru, Huw Stephens, sy'n un o gyfranwyr y gyfres Cool Cymru: "Be' 'nath llwyddiant y bandiau ar y pryd oedd gwneud i bobl sylweddoli bod diwylliant a cherddoriaeth yng Nghymru yn bwysig, a bod modd dod o Gymru a bod yn llwyddiannus."

Roedd Iestyn George yn newyddiadurwr i gylchgrawn NME yn y 90au ac roedd yn agos i sawl un o'r bandiau.

"Mae natur y gair 'cŵl' yn gwneud i rhywun feddwl bod e'n sôn am ffasiwn - o'n i wastad yn ei weld e bach yn od," meddai Iestyn, sydd bellach yn darlithio mewn newyddiaduraeth yn Brighton ymysg pethau eraill. "Cyn gynted ma' rhywun yn dweud bod rhywbeth yn cŵl dyw e ddim yn cŵl wedyn nag yw e?!

"Yn gyffredinol, o edrych nôl, roedd e'n amser reit ddiddorol yn ddiwylliannol oherwydd y cyfuniad a'r cymysgedd yng Nghymru rhwng y sin gerddoriaeth Gymraeg a'r sin di-Gymraeg a dwyieithog.

"I fi roedd e'n amser lle roedd 'na lot o sôn a chwestiynu os oedd [Cool Cymru] yn mynd i arwain at ddirywiad y sin Gymraeg. Ond wnaeth e arwain at oes newydd o ran ein diwylliant ni yn gyffredinol ond yn sicr o ran canu pop.

"Y grŵp ddangosodd y ffordd oedd y Super Furries. Roedd 'na gynulleidfa yn ddigon parod i brynu record [uniaith Gymraeg] fel Mwng, ac iddo fe fod yn y siartiau, roedd e'n amser cyffrous iawn jest i weld y Gymraeg yn cael ei defnyddio mor barod."

'Brexit ei oes'

Ond a oedd bathu term fel 'Cool Cymru' yn help neu'n rhwystr i'r bandiau?

"Doedd e ddim yn teimlo fel rhywbeth mor gyfyngedig â Brit Pop, er enghraifft, achos oedd hynny'n digwydd yr un amser," meddai Iestyn. "O'n i'n neud lot o stwff efo Paul Weller o gwmpas yr adeg hynny ac o'n i'n teimlo'n lot llai cyfforddus efo'r syniad hyn o Brit Pop.

"Ro'n i'n gweithio i NME ar y pryd pan oedd Oasis yn dechre mas - roedd e'n rhywbeth eitha' cyfyngedig a chul-feddwl. Roedd e fel Brexit ei oes - 'British music for British people'.

"Fyddwn i byth yn defnyddio term fel 'Cool Cymru', ond oedd e'n teimlo bod 'na fwy o ryddid o gymharu gyda Brit Pop. Fydde Gorky's [Zygotic Mynci] yn gallu gwneud stwff nhw, a Catatonia yn gwneud stwff nhw. Doedd e ddim yn teimlo fel bod pobl yn canu am yr un stwff neu bod y gerddoriaeth yr un fath efallai... Roedd e'n beth lot mwy amrywiol."

Image caption Mark Roberts (ar y dde) a gweddill band Catatonia

Roedd Mark Roberts yn aelod o'r band Y Cyrff, ond efallai ei fod yn fwy adnabyddus am ei amser fel aelod blaenllaw o'r grŵp Catatonia.

Mae'n dweud nad yw'n cofio rhyw lawer o'r cyfnod - "mae'n bell yn ôl", meddai - ond dydy o ddim yn poeni rhyw lawer am sut roedd y cyfnod yn cael ei labelu.

"Dwi'm yn gwbod pwy nath ddod i fyny efo [Cool Cymru] rili. Oedd o jest yn adeg lle nath 'na lot o fandia' Cymraeg ddod i'r amlwg ar yr un pryd a rhywun jest yn teimlo bod rhaid rhoi enw i'r peth.

"Do'n i ddim yn arsed either way i fod yn onast."


Gwyliwch ar S4C: Cool Cymru, dydd Iau 3 Tachwedd, 21:30