Pedwar chwaraewr yn arwyddo cytundebau deuol newydd

Dan Lydiate, Sam Warburton, Hallam Amos a Samson Lee Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Sam Warburton, Dan Lydiate, Samson Lee a Hallam Amos wedi ymestyn eu cytundebau deuol gydag Undeb Rygbi Cymru.

Mae gan y pedwar chwaraewr, sy'n chwarae i bedwar rhanbarth Cymru, gyfanswm o 160 o gapiau rhyngwladol.

Mae cytundebau deuol yn cael eu hariannu ar y cyd rhwng Undeb Rygbi Cymru (60%) a'r rhanbarthau (40%).

Dywedodd pennaeth Undeb Rygbi Cymru bod y cytundebau newydd yn "pwysleisio llwyddiant y rhaglen".

Mae'r pedwar wedi cynrychioli rhanbarthau Cymru dros 370 o weithiau.

Sicrwydd i'r rhanbarthau

Capten Cymru, Warburton oedd y chwaraewr cyntaf i arwyddo cytundeb deuol gydag Undeb Rygbi Cymru, a hynny gyda'r Gleision ym mis Medi 2014.

Fe wnaeth y blaenasgellwr, Lydiate ddychwelyd i chwarae yng Nghymru ar gytundeb deuol ym mis Rhagfyr 2014 pan ymunodd â'r Gweilch ar ôl cyfnod yn Ffrainc.

Fe arwyddodd prop y Scarlets, Lee, sydd wedi ennill 26 o gapiau, ei gytundeb deuol cyntaf ym mis Ionawr 2015.

Roedd adroddiadau bod Amos yn ystyried gadael y Dreigiau, ond bydd y cytundeb newydd yn tawelu'r amheuon am hynny.

Fe arwyddodd yr asgellwr 22 oed ei gytundeb deuol cyntaf ym mis Rhagfyr 2014.