Pro12: Gleision 15-26 Scarlets

DTH Image copyright Huw Evans picture agency

Mae'r Scarlets wedi ennill eu pedwaredd gêm yn olynol yn y Pro12 gyda buddugoliaeth pwynt bonws dros y Gleision yng Nghaerdydd.

Roedd y Scarlets ar y blaen o 14 o bwyntiau wedi'r hanner cyntaf wedi ceisiau gan Aaron Shingler, Jonathan Evans a DTH van der Merwe.

Sgoriodd Hadleigh Parkes ar ôl i Rhys Patchell dorri drwy amddiffyn y tîm cartref i sicrhau'r pwynt bonws.

Er i Blaine Scully a Tom James sgorio ceisiau i'r Gleision, nid oedd y tîm cartref yn gallu delio gydag ymosodiadau'r ymwelwyr.

Mae'r Scarlets nawr yn gyfartal gyda'r Gleision ar 18 o bwyntiau yn y Pro12.