Pedwar yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad A55 yn Rhuallt

A55 Image copyright Google
Image caption Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A55 ger Rhuallt

Mae pedwar o bobl wedi eu cludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A55 nos Wener.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd bod y gwrthdrawiad ger Rhuallt yn Sir Ddinbych wedi digwydd am tua 17:20.

Roedd nifer o gerbydau'n rhan o'r digwyddiad, ac roedd oedi hir i draffig.

Fe wnaeth lonydd ail-agor am tua 20:00.