Caerdydd 0-1 Wigan

Anthony Pilkington Image copyright Getty Images
Image caption Fe fethodd Anthony Pilkington nifer o gyfleoedd dros Gaerdydd

Roedd gôl hwyr gan gyn-chwaraewr Abertawe, Jordi Gomez yn ddigon i sicrhau bod Wigan yn dianc o Stadiwm Dinas Caerdydd gyda'r tri phwynt.

Fe reolodd Caerdydd y gêm yn yr hanner cyntaf, gydag Anthony Pilkington, Sol Bamba, Joe Ralls a Craig Noone yn euog o wastraffu cyfleoedd.

Yr un oedd y stori yn yr ail hanner gyda chyfleoedd pellach i Bamba, Aron Gunnarsson a Joe Bennett, tra bod Will Grigg hefyd wedi mynd yn agos i'r ymwelwyr.

Daeth Kadeem Harris a Stuart O'Keefe oddi ar y fainc i'r Adar Gleision yn lle Peter Whittingham a Junior Hoilett er mwyn ceisio gwneud gwahaniaeth, tra bod Wigan wedi dod â'r Cymro Craig Davies ymlaen yn lle Grigg, i ymuno â Shaun Macdonald oedd eisoes ar y cae.

A Wigan gafodd y gair olaf, gyda Jordi Gomez yn rhwydo yn dilyn symudiad gwrthymosodol i sicrhau'r fuddugoliaeth i'w dîm.

Dyma'r gêm gyntaf i Neil Warnock ei golli ers dod yn rheolwr ar Gaerdydd, ac mae'r canlyniad yn golygu bod y tîm yn llithro i'r 21ain safle yn y Bencampwriaeth.