Gateshead 2-2 Wrecsam

John Rooney Image copyright Rex Features
Image caption Fe sgoriodd John Rooney gôl gyntaf Wrecsam wrth iddyn nhw frwydro nôl i sicrhau pwynt

Llwyddodd Wrecsam i sicrhau pwynt ar ôl bod ddwy gôl ar ei hôl hi oddi cartref yn Gateshead.

Fe gafodd y ddau dîm gyfleoedd yn yr hanner cyntaf cyn i beniad Sam Jones o groesiad Wes Atkinson roi'r tîm cartref ar y blaen.

Dyblwyd y fantais ar ôl 49 munud wrth i Danny Jones ganfod lle gwag a saethu heibio i Shwan Jalal yn y gôl.

Ond fe frwydrodd Wrecsam yn ôl, gyda goliau gan John Rooney ac yna Hamza Bencherif yn dod â'r Dreigiau yn gyfartal gydag ugain munud i fynd.

Felly yr arhosodd hi, gyda'r pwynt yn golygu bod Wrecsam yn aros yn 14eg yn y Gynghrair Genedlaethol.