Llofruddiaeth Y Rhyl: Tri pherson wedi'u harestio

rhyl

Mae tri pherson wedi eu harestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth dyn mewn maes parcio yn Y Rhyl.

Bu farw Mark Mason, oedd yn 48 oed ac yn byw yn lleol, yn dilyn digwyddiad ym maes parcio siop Home Bargains, ger Ffordd Marsh ychydig cyn 19:30 nos Iau.

Dywedodd yr heddlu bod y tri pherson sydd wedi cael eu harestio yn dod o du hwnt i ogledd Cymru.

"Rydym ni'n ddiolchgar am y gefnogaeth rydyn ni wedi ei dderbyn mewn cysylltiad â'r ymchwiliad hwn ac rydyn ni eisiau tawelu meddyliau'r gymuned gyda'r arestiadau hyn," meddai DCI Jason Devonport o Heddlu Gogledd Cymru.

"Fe fydd presenoldeb heddlu yn ardal Y Rhyl yn parhau wrth i ni gasglu tystiolaeth."

Yn ôl yr heddlu roedd Mr Mason wedi teithio i'r maes parcio nos Iau mewn fan Renault Kango, a oedd yn cael ei ddilyn gan gerbyd 4x4 du.

Fe ddaeth y troseddwyr allan o'r cerbyd du, gan ymosod ar y dyn yn y fan a'r lle cyn gadael.

Cafodd Mr Mason ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd, lle bu farw'n ddiweddarach.