Gareth Bale yn arwyddo cytundeb newydd â Real Madrid

gareth bale Image copyright Matthias Hangst/Getty Images
Image caption Fe enillodd Bale Gwpan Ewrop â'i glwb am yr ail waith eleni

Mae Gareth Bale wedi arwyddo cytundeb newydd â Real Madrid fydd yn para nes 2022.

Roedd gan y Cymro dair blynedd ar ôl ar ei gytundeb presennol, ac fe fydd yn siarad mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Llun i drafod yr estyniad.

Ers ymuno â'r clwb o Sbaen dair blynedd yn ôl mae Bale wedi ennill Cynghrair y Pencampwyr ddwywaith, yn ogystal â'r Copa del Rey a'r Super Cup unwaith.

Mae wedi sgorio 62 gôl mewn 135 o gemau dros Real Madrid, gan gynnwys pedair hyd yn hyn y tymor yma.

Ddydd Llun fe gafodd ei enwi ar restr fer o 30 ar gyfer gwobr y Ballon d'Or eleni, fel cydnabyddiaeth o flwyddyn lwyddiannus gyda'i glwb a'r rhan a chwaraeodd wrth i Gymru gyrraedd rownd cynderfynol Euro 2016.

Cafodd Bale ei wneud yn bêl-droediwr drytaf y byd pan gafodd ei arwyddo gan Real Madrid o Tottenham yn 2013 am ffi o £85m, ond mae'r record hwnnw bellach wedi cael ei dorri gan Paul Pogba o Manchester United.