Agor canolfan dialysis newydd i gleifion yng Nghaerdydd

nyrs a claf Image copyright Science Photo Library

Fe fydd canolfan dialysis newydd yn cael ei hagor yng Nghaerdydd ddydd Llun gan y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething.

Ar hyn o bryd mae 300 o gleifion yn defnyddio'r gwasanaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Dywedodd y llywodraeth y byddai'r ganolfan newydd yn Lecwydd yn darparu cyfleusterau gwell, golygu bod modd darparu gofal yn agosach at adref ac yn cynyddu nifer y nyrsys i bob claf.

Mae disgwyl i ganolfannau newydd tebyg gael eu hagor yng Nghasnewydd a gogledd Gwent dros y misoedd nesaf.