Ailagor A48 yn Sir Gaerfyrddin wedi chwe wythnos

A48
Image caption Roedd traffig yn cael ei ddargyfeirio trwy Nant-y-caws tra bo'r ffordd ar gau

Mae lôn ddwyreiniol yr A48 yn Sir Gaerfyrddin wedi ei hailagor ar ôl bod ar gau am bron i chwe wythnos er mwyn i waith atgyweirio gael ei wneud ar bibell yn cludo tanwydd.

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys fe gafodd y ffordd ei hailagor am 22:00 nos Sul 30 Hydref, dau ddiwrnod yn gynt na'r disgwyl.

Dywed yr heddlu fod hyn yn newyddion da gan fod cau'r ffordd yn ardal Nant-y-caws wedi golygu anghyfleustra i yrwyr lleol ac i drafnidiaeth yn y gorllewin.

Mae'r ffordd ddeuol yn cysylltu gorllewin Cymru gyda'r M4.

Cafodd y lôn ddwyreiniol ei chau er mwyn caniatau gwaith atgyweirio ar bibell yn cludo tanwydd o burfa Valero ym Mhenfro i derfynellau ym Manceinion a Kingsbury.

Ond y mis hwn bu'n rhaid cau'r lon orllewinol hefyd rhwng 14 a 16 Mehefin ar ôl i dros 140,000 litr o gerosin ollwng yn ardal Nant-y-caws, ger Caerfyrddin.