Archwilwyr yn edrych ar wariant Cylchffordd Cymru

Cylchffordd Cymru

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn craffu ar wariant arian cyhoeddus mewn cysylltiad â chynllun Cylchffordd Cymru.

Fe dderbyniodd Cwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd grant o £2m a gwarant ar gyfer benthyciad banc o £7.35m i symud eu cynlluniau ymlaen.

Roedd hynny hefyd i fod i roi hwb i'r ymdrech i dod o hyd i fuddsoddwyr preifat ar gyfer y trac rasio gwerth £425m ger Glyn Ebwy.

Dyw'r cwmni heb ddod o hyd i'r holl fuddsoddiad preifat sydd ei angen hyd yma.

Mae AS Mynwy David Davies wedi galw am atal gwariant cyhoeddus pellach ar y cynllun.

Image copyright Getty Images
Image caption Mae dogfen ddaeth i law David Davies AS yn rhan o ymchwiliad Swyddfa Archwilio Cymru

Ar raglen Week In Week Out, mae David Davies AS yn dweud na ddylid gwario mwy o arian cyhoeddus ar y cynllun hyd nes y bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn gorffen eu gwaith.

Fe dderbyniodd Mr Davies ddogfen gan aelod o'r cyhoedd, sy'n codi pryderon am sut mae'r arian wedi cael ei ddefnyddio gan Gwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd i gyflwyno cynlluniau'r datblygwr Michael Carrick.

Mae'r ddogfen honno'n rhan o ymholiad Swyddfa Archwilio Cymru.

Dywedodd Mr Davies: "Mae o leiaf £9m o arian cyhoeddus wedi mynd mewn i'r cynllun hwn eisoes, ac rwy'n meddwl ei bod yn amser i ddechrau darganfod beth sydd wedi digwydd i'r arian hwnnw cyn rhoi mwy o arian i mewn iddo."

Image caption Mae'r archwilydd cyffredinol yn cymryd golwg ar y cynlluniau

Dywedodd llefarydd ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, ei fod yn edrych ar y defnydd o arian cyhoeddus ar y prosiect hyd yma, a rhai agweddau o gymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer y cynllun.

Mae'r datblygiad wedi addo dod â 6,000 o swyddi i Flaenau Gwent ac i roi hwb i'r economi leol o £50m y flwyddyn drwy'r trac rasio, parc busnes a gwestai.

Yn ôl y cwmni, bydd yn denu 750,000 o ymwelwyr y flwyddyn drwy gynnal nifer o ddigwyddiadau o bwys, gan gynnwys y ras byd-enwog y Moto GP.

Mae Mr Carrick wedi cadarnhau bod gwerth bron i £23m o waith wedi'i wneud ar y cynllun, gan gwmnïau a gweithwyr proffesiynol preifat sy'n gweithio 'mewn risg' - sy'n golygu nad ydyn nhw wedi cael eu talu ac oni bai y bydd y Gylchffordd yn llwyddiant, mae'n bosib na fyddan nhw'n derbyn yr un geiniog.

Dros y ddwy flynedd diwethaf mae Michael Carrick wedi dweud ei fod wedi trefnu buddsoddwyr, ond mae'n gwrthod eu henwi nhw. Pan gafodd ei herio am hyn, dywedodd bod y cwmni yn cyflawni'r prosiect mewn ffordd wahanol er mwyn denu gwahanol fuddsoddwyr ar gyfer y tymor hir.

Image copyright Circuit of Wales

Fe ddyfarnodd Llywodraeth Cymru grant o £2m i'r cwmni datblygu, ac maen nhw wedi cadarnhau eu bod yn gwybod nad oedd gan y cwmni unrhyw fuddsoddwyr yn 2014.

Dyna pryd gafodd benthyciad banc o £7.35m ei warantu - arian sydd ers hynny wedi cael ei ddefnyddio i dalu dyledion y cwmni.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn gwneud hynny yn unol â'u polisïau, ac y gallan nhw adennill yr arian ond nad ydyn nhw hyd yn hyn wedi gwneud hynny.

Plas yn Granchester

Ond mae BBC Cymru wedi darganfod bod un cwmni, Aventa Capital Partners Limited sy'n eiddo i Mr Carrick, wedi derbyn taliad o £967,000 gan Gwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd i helpu i ddod o hyd i fuddsoddwyr.

Fe wrthododd y cwmni roi manylion am eu defnydd o'r £967,000, gan ddweud ei fod ar gyfer "gwasanaethau".

GofynnoddWeek In Week Out hefyd pam fod Aventa wedi talu tua £35,000 ar gyfer gwaith garddio ar blas Mr Carrick yn Granchester. Dywedodd y cwmni mai camgymeriad gweinyddol yn y swyddfa oedd y rheswm.

Gwrthod gwarantu

Ym mis Ebrill gofynnodd Mr Carrick i Lywodraeth Cymru warantu cytundeb o £350m gyda chwmni Aviva. Fe wrthododd Gweinidog yr Economi ar y pryd, Edwina Hart, gan ddweud ei fod yn ormod o risg i'r cyhoedd.

Fe aeth Mr Carrick yn ôl at olynydd Ms Hart, Ken Skates, ym mis Gorffennaf i ofyn am 75% o'r swm, ac eto fe gafodd ei gais ei wrthod.

Y gred yw fod y cwmni yn awr yn gofyn am warantu 49% o'r costau.

Byddai hyn yn golygu y byddai Llywodraeth Cymru yn derbyn oddeutu £4m y flwyddyn am y 30 mlynedd nesaf pe bai'r cynllun yn llwyddiant. Ond os bydd yn methu unwaith bydd y trac wedi cael ei adeiladu, fe fydd y llywodraeth yn wynebu colledion o hyd at £210m, ac fe fyddai'n rhaid ei dalu dros gyfnod o 35 mlynedd.

Bythefnos yn ôl, fe gyhoeddodd y cwmni fod banc masnachol Kleinwort Benson yn awr yn helpu i edrych am werth £100m o fuddsoddiad preifat ychwanegol. Maen nhw'n hyderus y byddan nhw'n dod o hyd i'r arian.

Ond heb gefnogaeth bellach gan Lywodraeth Cymru efallai na fydd y cynllun yn mynd yn ei flaen.