Uwch Gynghrair Lloegr: Stoke 3-1 Abertawe

abertawe Image copyright Getty Images

Fe lwyddodd Stoke i sicrhau eu trydedd fuddugoliaeth yn olynol yn Uwch Gynghrair Lloegr, wrth iddynt drechu Abertawe o dair gôl i un.

Y cyntaf i sgorio oedd cyn ymosodwr Yr Elyrch - Wilfried Bony, gyda'i gôl gyntaf dros Stoke, cyn i Wayne Routledge unioni'r sgôr cyn yr hanner.

Fe gafodd Stoke nifer o gyfleoedd yn yr ail hanner, gan fanteisio yn benodol ar ddau gyfle - gôl arall gan Bony, ac fe roddodd amddiffynnwr Abertawe, Alfie Mawson, y bêl yng nghefn ei rwyd ei hun.

Mae tîm Mark Hughes yn codi i'r 12fed safle yn y tabl, tra bod Abertawe, er gwaethaf rhai arwyddion cychwynnol o welliant, yn parhau i fod yn ail o'r gwaelod.