Budd-daliadau salwch: Gostyngiad o 20%

South Wales valleys housing

Fe all BBC Cymru ddatgelu fod yna ostyngiad o tua 20% dros y saith mlynedd diwethaf yn y nifer o bobl sy'n hawlio budd-daliadau salwch mewn rhai ardaloedd yng Nghymru.

Dros y cyfnod dan sylw fe gafodd y Lwfans Gwaith a Chymorth (ESA) ei gyflwyno ynghyd â system newydd o brofi os oedd person yn ddigon iach i weithio.

Ddydd Sul, fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai'r profion Gallu i Weithio (WCA) yma yn cael eu had-drefnu.

Ar draws y DU roedd yna ostyngiad o 4% yn y nifer sy'n hawlio ESA rhwng Tachwedd 2008 a Chwefror 2016.

Ond yng Nghymru, roedd yna ostyngiad o 15%, tra bod y ffigyrau yn ardaloedd Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Blaenau Gwent wedi gostwng 20%.

Yn hanesyddol, yr aradeiledd ôl-ddiwydiannol yma oedd gyda'r lefelau uchaf o bobl yn hawlio budd-daliadau salwch ar draws y DU.

Ers 2008, bu yna bron i 200,000 o asesiadau 'Gallu i Weithio' yng Nghymru - penderfynwyd bod ychydig llai 'na hanner, 95,000, yn gallu gweithio.

Fe benderfynwyd bod 44,000 yn gallu gwneud ymdrech o ryw fath i chwilio am waith, tra bod 59,500 yn methu chwilio am waith.

Image caption Damian Green: Dechrau ymgynghoriad i'r cynllun Gallu I Weithio

'Ddim yn gweithio'

Mae'r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Damian Green wedi dechrau ymgynghoriad i'r cynllun Gallu I Weithio oherwydd ei fod am system sydd yn "fwy personol" wrth helpu pobl chwilio am waith.

Cafodd yr ESA a'r asesiadau eu cyflwyno gan y Blaid Lafur a'i hymestyn gan lywodraeth glymblaid San Steffan.

Mae'r cynllun i newid yr asesiadau wedi cael ei groesawu gan yr Arglwydd Peter Hain a fu'n gyfrifol am gyflwyno profion tebyg tua degawd yn ôl.

Yn ôl yr Arglwydd Hain: "Y prif beth wnes i gyflwyno oedd profi beth oeddech chi'n gallu gwneud, yn hytrach na'r hyn doeddech chi ddim yn gallu gwneud.

"Erbyn hyn mae'n cael ei ddefnyddio mewn modd gormesol. Mae pobl oedd yn y gorffennol yn methu gweithio nawr yn pasio'r prawf. Nid dyna fwriad fy newidiadau gwreiddiol.

"Cafodd ei drawsnewid mewn i system lem sy'n gorfodi pobl i weithio, a hynny pe bai nhw'n gallu ai peidio."

Yn ôl yr Adran Gwaith a Phensiynau, doedd y system wnaethon nhw etifeddu yn 2010 ddim yn gweithio, ond fod gwelliant wedi bod wrth annog y rheiny sydd yn gallu gweithio i wneud hynny tra bod rheiny sydd yn methu gweithio yn cael eu diogelu.

Dywedodd Damian Green: "Ry'n ni'n gwybod fod y math cywir o waith yn dda ar gyfer ein hiechyd corfforol a meddyliol, ond mae angen system iechyd a lles fwy pragmataidd sy'n adlewyrchu hyn - un sy'n cynnig gwaith i'r rhai sy'n medru gweithio, cymorth i'r rhai a allai weithio a gofal i'r rhai sy'n methu gweithio.

"Does neb am gael system lle mae pobl yn cael eu diystyru a'u gorfodi i dreulio cyfnodau hir o amser ar fudd-daliadau pan fydden nhw, gyda'r gefnogaeth gywir mewn gwirionedd, yn gallu dychwelyd i'r gwaith," meddai.