Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio dyn o Gaernarfon

Phillip Owen Image copyright Heddlu Manceinion
Image caption Bu farw Phillip Owen ar ôl cael ei drywanu yn ei wddf

Mae dyn 24 oed wedi ei arestio mewn cysylltiad â marwolaeth dyn o Gaernarfon ym Manceinion.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i dŷ yn ardal Urmston am 19:00 nos Sul yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi marw.

Cafodd gorff Phillip Owen, 42 oed, ei ganfod yno. Roedd wedi ei drywanu yn ei wddf.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Jon Chadwick: "Neithiwr, cafodd dyn ei arestio ar amheuaeth o lofruddio Phillip.

"Mae'n ymchwiliad yn parhau ac rydym yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am farwolaeth Phillip i gysylltu â ni.

"Rydym yn cydymdeimlo â theulu Phillip ac yn cynnig cymorth iddyn nhw ar adeg anodd."

Dywedodd teulu Mr Owen ei fod yn berson "hynod hoffus" oedd yn "byw bywyd i'r eithaf".

Ychwanegwyd: "Roedd yn fab ac yn frawd hoffus."