Llofruddiaeth Y Rhyl: Pedwar dyn yn Llys y Goron

Mark Mason Image copyright Llun Teulu

Mae pedwar dyn o Lerpwl wedi ymddangos yn y llys wedi'u cyhuddo o lofruddio dyn o Sir Ddinbych yn dilyn ymosodiad mewn maes parcio.

Bu farw Mark Mason, 48 oed o'r Rhyl, ar ôl cael ei drywanu ar Ffordd Marsh yn y dref ar 27 Hydref.

Fe ymddangosodd Anthony Francis Baines, 30, Jake Melia, 21, James Davies, 20, a Mark Ennis, 31 o flaen Llys y Goron Yr Wyddgrug trwy gyswllt fideo o garchar Altcourse yn Lerpwl.

Maen nhw hefyd wedi'u cyhuddo o glwyfo dau ddyn arall gyda'r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol.

Cafodd y dynion eu cadw yn y ddalfa, ac mae dyddiad dros dro wedi'i osod ar gyfer cynnal achos, sef Ebrill 2017.

Bydd y barnwr yn gofyn i'r dynion gyflwyno ple ar 1 Rhagfyr.