Coleman ar restr fer hyfforddwr y flwyddyn FIFA

Chris Coleman Image copyright Getty Images

Mae rheolwr tîm cenedlaethol Cymru, Chris Coleman wedi cael ei enwi ar restr fer FIFA ar gyfer gwobr Hyfforddwr Dynion Gorau'r Byd 2016.

Fe wnaeth Coleman arwain Cymru i rownd gynderfynol Euro 2016 ar eu hymddangosiad cyntaf yn un o brif bencampwriaethau'r byd ers Cwpan y Byd 1958.

Yr enwau eraill ar y rhestr fer 10 dyn sy'n rheoli ym Mhrydain yw rheolwr Caerlŷr, Claudio Ranieri, rheolwr Manchester City, Pep Guardiola, rheolwr Lerpwl, Jurgen Klopp a Mauricio Pochettino o Tottenham Hostspur.

Bydd 50% o'r bleidlais yn cael ei ddewis gan gapteiniaid a rheolwyr pob tîm cenedlaethol yn y byd, tra bydd y 50% arall yn cael ei gyfuno rhwng pleidlais gyhoeddus a dewis grŵp o tua 200 o newyddiadurwyr o amgylch y byd.

Fe fydd y bleidlais ar agor o ddydd Gwener nes 22 Tachwedd.

Bydd y rhestr fer wedyn yn cael ei dorri i lawr i dri enw, a bydd yr enwau hynny'n cael eu cyhoeddi ar 2 Rhagfyr.

Fe fydd yr enillydd, ynghyd â holl wobrau eraill FIFA am 2016, yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni ar 9 Ionawr 2017.

Y rhestr fer yn llawn:

  • Chris Coleman (Tîm cenedlaethol Cymru);
  • Didier Deschamps (Tîm cenedlaethol Ffrainc);
  • Pep Guardiola (Bayern Munich/Manchester City);
  • Jürgen Klopp (Lerpwl);
  • Luis Enrique (Barcelona);
  • Mauricio Pochettino (Tottenham Hotspur);
  • Claudio Ranieri (Caerlŷr);
  • Fernando Santos (Tîm cenedlaethol Portiwgal);
  • Diego Simeone (Atletico Madrid);
  • Zinédine Zidane (Real Madrid).