Yr iaith Gymraeg: 'Hyder, nid cywirdeb' sy'n bwysig

Alun Davies
Image caption Alun Davies yw Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Hyder a hapusrwydd yw'r allwedd i gael mwy o bobl i siarad Cymraeg, nid cywirdeb a threigladau, yn ôl Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.

Fe wnaeth Alun Davies ei sylwadau mewn cyfarfod o Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Cynulliad ddydd Mercher.

Roedd y gweinidog yn ymateb i gwestiynau am strategaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Fe wnaeth cyfrifiad 2011 gofnodi bod 562,000 o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru - tua 19% o'r boblogaeth.

Byddai miliwn o siaradwyr Cymraeg tua thraean o'r boblogaeth yng nghyfrifiad 2011.

'Pregethu'

Yn y cyfarfod, dywedodd arweinydd grwp UKIP yn y Cynulliad, Neil Hamilton bod angen gwneud dysgu iaith yn hwyl, a gofynnodd i Mr Davies sut oedd yn gobeithio cyflawni hynny.

"Mae pobl eisiau mwynhau eu bywydau," atebodd Mr Davies.

"Os ydyn ni'n treulio llawer o arian yn ceisio pregethu pwysigrwydd gwahanol dreigladau, dydyn ni ddim yn mynd i ddenu sylw pobl a'u gwneud i deimlo'n gyfforddus.

"Byddai'n well gen i i rywun siarad Cymraeg yn hyderus ac yn hapus, hyd yn oed petai hynny yn torri calon yr Archdderwydd."

Dywedodd Archdderwydd Gorsedd y Beirdd, Geraint Llifon yn gynharach eleni na fydd yr Orsedd yn llacio'r rheol iaith, ac y byddai'n rhaid i unrhyw aelod fod yn rhugl yn eu Cymraeg.

Un o bob 120

Dywedodd AC Llafur Merthyr Tudful a Rhymni, Dawn Bowden mai "un o bob 120" o oedolion yng Nghymru sy'n ystyried eu hunain fel eu bod yn dysgu Cymraeg.

Gofynnodd i Mr Davies beth fydd strategaeth Llywodraeth Cymru wrth geisio cynyddu nifer yr oedolion sy'n dysgu Cymraeg, ac i ba safon y byddai disgwyl iddyn nhw wneud hynny.

"Rydyn ni'n glir am gyrraedd miliwn o bobl sy'n siarad Cymraeg," meddai Mr Davies. "Nid miliwn o bobl sy'n gallu canu'r anthem neu ddweud 'shwmae' neu 'diolch yn fawr'.

"Rydyn ni eisiau miliwn o bobl sy'n gallu siarad Cymraeg, yn glir, yn hyderus, a hynny phob dydd. Ac nid yn unig gallu'r Gymraeg, ond defnyddio'r Gymraeg.

"Dy'n ni wedi sefydlu pwyllgor craffu i edrych ar waith Canolfan Cymraeg i Oedolion a byddwn yn edrych ar sut y bydd hynny'n gweithio."

Gwlad y Basg

Dywedodd ei fod yn edmygu gwaith Gwlad y Basg o ran dysgu'r iaith i oedolion, a phe bai Cymru am ddilyn model gwlad arall, y byddai honno'n wlad addas iawn i'w dilyn.

"Rydyn ni'n gwybod bod nifer o bobl yng Nghymru sy'n siarad lefel o Gymraeg, ond sydd ddim yn hyderus yn ei defnyddio," ychwanegodd Mr Davies.

Dywedodd mai pobl fel hyn fyddai'r flaenoriaeth o ran cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg, gan fod ganddyn nhw wybodaeth o'r iaith eisoes.