Mesur Dyn

Yn y dyddiau brecsitaidd, Trwmpaidd yma mae'n braf weithiau i ddod o hyd i ffrae fach wleidyddol nad yw'n hollbwysig i ddyfodol y ddynolryw. Ffrae fach felly yw testun y post yma. Ffrae ynghylch gair yw hi - ond un sy'n ennyn teimladau cryfion mewn ambell i frest.

Gall Richard Wyn Jones ein goleuo ynghylch natur y ffrwgwd. Dyma a ddywed Richard mewn ôl-nodyn i'w golofn yn y rhifyn diweddaraf o Barn.

Tybed ai fi ydi'r un sy'n gweld colli'r defnydd o'r gair 'Mesur' i ddisgrifio cynnig deddfwriaethol sydd heb eto ei basio'n Ddeddf? Mae 'bil' mor hyll o'i gymharu. Ych a fi! Rheswm arall i felltithio'r drefn ddeddfwriaethol hurt a fodolai yng Nghymru rhwng 2007 a 2011 ac a danseiliodd ystyr traddodiadol 'Mesur' a 'Deddf'.

Na, Richard, nid ti yw'r unig un!

I esbonio ychydig bach yn bellach. Doedd y 'measures' a basiwyd rhwng 2007 a 2011 ddim yn gyfystyr a'r 'bills' a gyflwynir yn sgil refferendwm 2011. I adlewyrchu hynny barnodd awdurdodau'r Cynulliad y dylid galw 'bills' yn 'biliau' o dan y dref newydd.

Roedd nifer o wleidyddion a newyddiadurwyr yn credu ar y pryd bod y penderfyniad yn un pedantig a gwirion. Mae'n mynd yn fwy gwirion byth gyda threigl y blynyddoedd wrth i'r hen drefn fynd yn angof. Yn amlach na pheidio 'mesur' nid 'bil' sy'n cael ei ddefnyddio gan y cyfryngau y dyddiau hyn. Dyna sy'n cael ei ddweud yn aml yn y siambr hefyd er bod y Cofnod o bryd i gilydd yn troi 'mesur' yn 'bil' mewn ymdrech i achub crofen yr hen William.

Gydag unrhyw lwc fe fydd yr hen Bil yn marw o achosion naturiol rhywbryd yn y dyfodol ac yn cael ei gladdu yn nyfroedd oerion y Bae!

Yn y cyfamser gallwn gytuno ar un peth. Beth bynnag sy'n gywir ym Mae Caerdydd 'mesur' nid 'bil' sy'n gywir pan ddaw hi at San Steffan. Mae sôn am 'Bil Cymru' fel mae rhai yn gwneud yn anghywir. Caiff y person nesaf i ddefnyddio'r term yna brynu peint i mi - a nhw sy'n talu'r bil!