UKIP 'ddim yn llanast', yn ôl Neil Hamilton

Neil Hamilton
Image caption Paul Nuttall sy'n cael cefnogaeth Neil Hamilton yn y ras ar gyfer arweinyddiaeth UKIP

Mae arweinydd UKIP yn y Cynulliad wedi dweud nad ydi'r blaid yn "llanast", er gwaethaf y ffraeo mewnol diweddar.

Fe gyfaddefodd Neil Hamilton bod digwyddiadau fel ymddiswyddiad Diane James ar ôl 18 diwrnod fel arweinydd yn "embaras".

Ond gwadodd bod hynny'n adlewyrchu'r blaid gyfan.

Bydd y pedwar sy'n gobeithio i olynu Ms James yn mynd benben mewn dadl yng Nghasnewydd nos Iau.

Y ffefrynnau yw'r cyn ddirprwy lywydd, Paul Nuttall, a'r cyn ddirpwy gadeirydd Suzanne Evans. Mae'r Cymro John Rees-Evans a Peter Whittle, sy'n aelod o Gynulliad Llundain, hefyd yn y ras.

Image copyright Getty/AP/PA/BBC
Image caption Peter Whittle, Suzanne Evans, John Rees-Evans a Paul Nuttall

Mr Nuttal sy'n cael cefnogaeth Mr Hamilton, ond dywedodd y byddai'n "hapus" i weithio gyda Ms Evans hefyd.

Ond mynnodd nad oedd ymddiswyddiad Ms James, na'r ffradach ddrwgenwog yn Senedd Ewrop a arweiniodd at gludo'r ASE Steven Woolfe i'r ysbyty, yn golygu ei bod hi'n amhosib llywodraethu UKIP.

"Dwi'n credu, yn amlwg, ei bod hi'n embaras i'r blaid bod Diane James wedi cael ei hethol a wedi ymddiswyddo ar ôl 18 diwrnod", meddai.

"Roedd hi'n sicr yn fwy nag embaras bod Steven Woolfe wedi bod yn y ffradach enwog 'na yn Senedd Ewrop.

"Ond dyw'r ffaith bod ambell i unigolyn wedi methu cyrraedd y safon yr hoffem ei weld ddim yn dangos bod gweddill y blaid yn llanast hefyd.

"Does dim problem gyda llywodraethu UKIP o gwbl."

Yn ogystal â Mr Hamilton, mae pedwar o aelodau eraill UKIP yn y cynulliad - Caroline Jones, Dave Rowlands, Michelle Brown a Gareth Bennett - wedi datgan eu cefnogaeth i Paul Nuttal.

Mae Mark Reckless AC a chyn-arweinydd UKIP yn Nghymru, Nathan Gill, wedi penderfynu aros yn niwtral yn y ras am yr arweinyddiaeth.