Ymchwiliad i strategaeth y Gymraeg

Cymraeg

Mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Cynulliad wedi cyhoeddi ymchwiliad i strategaeth iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru ddydd Iau.

Fe ddaw'r strategaeth bresennol i ben ar 31 Mawrth y flwyddyn nesaf.

Yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni, fe gyhoeddodd Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Gydol Oes ymgynghoriad ar y strategaeth, ac fe ddaeth yr ymgynghoriad hwnnw i ben ar 31 Hydref.

Yn yr un digwyddiad, fe nododd y Prif Weinidog Carwyn Jones y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae'r Pwyllgor bellach yn gwahodd pobl i gyflwyno tystiolaeth i'r ymchwiliad.

'Uchelgeisiol'

Dywedodd cadeirydd y Pwyllgor, Bethan Jenkins AC: "Yn ôl y Cyfrifiad diweddaraf yn 2011, roedd 562,000 o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, a nod y strategaeth yw bron dyblu nifer y siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif.

"Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gosod targed mor uchelgeisiol, sydd wedi cael ei groesawu o bob cyfeiriad.

"Os yw'r Llywodraeth am gyrraedd y targed hwn, mae angen gosod sylfeini cadarn ar unwaith er mwyn sicrhau bod gennym ddigon o bobl sy'n gallu addysgu ac ysbrydoli siaradwyr Cymraeg y dyfodol.

"O'i siarad neu beidio, mae'r iaith Gymraeg yn un o nodweddion mwyaf nodedig y cysyniad o Gymreictod. Mae'r iaith yn perthyn i bob un ohonom, ac nid yw ond yn deg ein bod yn uchelgeisiol ar gyfer ei hirhoedledd yn y dyfodol.

"Dyna pam mae'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu wedi cytuno ei bod yn bryd edrych ar sut y bydd y strategaeth yn newid o fod yn addewidion i weithredoedd, gan ystyried sut y gall y camau gweithredu hynny ddwyn ffrwyth. Nod ein hymchwiliad yw ceisio cyfrannu at y strategaeth newydd, a dylanwadu arni yn ystod y cyfnod datblygu ffurfiannol hwn."

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi mai ei phrif amcan yw creu gweithlu sydd â'r sgiliau priodol i addysgu a darparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae'r Pwyllgor yn awyddus i glywed barn pobl ar ddau bwnc penodol:

  • Gwella'r modd yr ydym yn cynllunio'r gweithlu a chefnogi ymarferwyr ym mhob cyfnod ym maes addysg;
  • Sicrhau gweithlu digonol ar gyfer addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac addysgu Cymraeg fel pwnc.

Mae manylion am sut i gyfrannu i'r ymchwiliad i'w cael ar wefan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, ac fe ddylai cyflwyniadau ddod i law erbyn dydd Mercher, 30 Tachwedd.

Straeon perthnasol