Y ffilm wnaeth ddychryn plant Cymru

O'r Image copyright Bwrdd Ffilmiau Cymraeg
Image caption Y pen dieflig gafodd ei ddarganfod yn y ffilm

I rai Cymry sydd bellach yn eu 40au mae'r geiriau 'O'r Ddaear Hen' yn dal i ddod ag atgofion arswydus yn ôl am drip ysgol hwyliog a drodd yn hunllef 35 mlynedd yn ôl.

Un o'r ffilmiau arswyd cyntaf yn y Gymraeg gan y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg oedd O'r Ddaear Hen, wedi ei chyfarwyddo gan Wil Aaron.

Pan gafodd ei rhyddhau yn 1981 penderfynodd y Bwrdd y byddai'n syniad da mynd â phlant o ysgolion cynradd i weld y ffilm am hen ben carreg Celtaidd oedd yn creu hafoc ac ofn yn Sir Fôn.

Nid yn unig mae'r pen dieflig o'r cyn oesau yn ymddangos o nunlle i ddychryn actorion profiadol fel Charles Williams ac Elen Roger Jones, oedd wedi ei ffeindio yng ngardd eu tŷ cownsil, mae hefyd yn achosi marwolaeth JO Roberts mewn damwain car yn y diwedd.

Un sy'n dal i ddisgwyl gweld yr "ymwelydd erchyll o olygfeydd ffilm enbyd fy mhlentyndod" ydy Mari Williams sy'n esbonio'r "trawma" achosodd y ffilm iddi bron i ddeugain mlynedd yn ôl:


"Dwi'n bachu cawod sydyn yn y prynhawn. Mae'n braf, yn olau, dwi'n hapus, yn ddi-hid yn estyn am y shampŵ, yn mwmial yn hwyliog hefo ryw gân radio … Ac yn rhewi.

"Dwi'n dal fy ngwynt, fy mraich yn dal yn estyn am y botel shampŵ … Sŵn traed ar y landin. Ai fo sy'n cerdded yn araf i lawr y coridor? Ydi wedi dod amdana i?

"Dwi'n gyrru'r car yn y tywyllwch. Dwi'n edrych yn y drych, ac yn ôl o mlaen. Ond mae fy llygaid yn cael eu denu'n ôl i'r drych. Welais i o?

"Dwi'n trio rhoi cip sydyn dros f'ysgwydd ar y sêt gefn, er mod i'n gyrru. Oedd o yno? Ai helmed a chyrn fel carw welais i yn y drych? Dwi'n rhoi nhroed ar y sbardun i symud yn gynt i gyrraedd diwedd fy ofn.

"Naw oeddwn i a dwi'n cofio'r cynnwrf o gael mynd i Neuadd Buddug, Y Bala, o Ysgol OM Edwards, Llanuwchllyn i weld y ffilm.

"Ai ryw ffilm fer hefo Syr Wynff ap Concord a Plwmsan oedd gynta? Dwi ddim yn cofio. Ond dwi yn cofio dod oddi yno yng nhefn car Mam hefo criw o ffrindie, yn teimlo reit od a chrynedig a ddim yn siŵr iawn be oedden ni newydd ei weld.

"Mi ges i fy magu mewn hen ffermdy yn llawn coridorau tywyll a lloriau gwichlyd. Nid mod i erioed wedi sylwi ar hynny cyn y ffilm.

"Dwi'n cofio gorwedd yn fy ngwely y noson honno wedi fy fferu gan ofn, yn sicr bod dyn hefo cyrn yn sefyll y tu allan i'r llofft.

Image copyright Bwrdd Ffilmiau Cymraeg
Image caption Be' sydd yn y pridd?

"Dwi rioed wedi teimlo ofn o'r fath. Ac er mod i yn hogan fawr naw oed, dwi'n cofio rhedeg at Mam a Dad y noson honno a dweud bod gen i gur pen ofnadwy. A Mam yn dweud wrtha i ddod i mewn i'r gwely atyn nhw.

"Roedd gen i gur pen y noson wedyn a'r un wedyn, ac am amser hir iawn. Yn sydyn, hyd yn oed mewn golau dydd, roedd picio i'r llofft ar ben fy hun i nôl ryw lyfr neu rhywbeth yn brofiad dychrynlllyd, a finne yn gorfod rhoi bob golau mlaen a'i heglu hi nôl lawr grisie cyn i rywun switsio'r golau i ffwrdd.

"Weithie mae'r un hen ofn yn dod drosta i. Dw i'n casau ffilmiau arswyd hefo cas berffaith.

"Barn pen dafad, neu ben carw, pwy oedd bod hon yn ffilm i blant? Mae wedi creu oriau o golli cwsg, blynyddoedd a drawma, ac yn agos i ddamwain ambell dro - dydi troi rownd i edrych os oes dyn hefo cyrn ar set gefn y car, tra'n gyrru, ddim i'w gynghori."


Cwynion

Nid Mari oedd yr unig un. Ar ôl y dangosiadau roedd 'na adroddiadau ym mhapurau newydd Y Cymro a'r Daily Post am gwynion gan rieni ac athrawon am yr holl blant bach roedd y ffilm wedi effeithio arnyn nhw.

Mae Kate Woodward yn dweud yr hanes yn ei llyfr Cleddyf ym Mrwydr yr Iaith?: Y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg:

"Aethpwyd â'r ffilm ar daith o Gymru, gyda sêl bendith y cyfarwyddwyr addysg perthnasol, gan ymweld â chanolfannau yng Nghaernarfon, y Bala, Dinbych, Pwllheli, Machynlleth, Llangefni, Aberystwyth a Harlech.

"Ar dudalen flaen Y Cymro, dan y pennawd bras 'Dychryn y plant', yn ogystal ag ar dudalennau'r Daily Post, adroddodd y papurau i nifer o athrawon a rhieni anfon llythyrau i gwyno wrth Gwilym Owen wedi i'r ffilm gael ei harddangos."

Gwilym Owen oedd Pennaeth y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg ac roedd y cwynion a gafodd yn sôn am blant oedd wedi eu troi yn rhai "hollol ofnus a nerfus" oedd ag "ofn mynd i gysgu" ac yn "gwlychu'r gwely".

Wrth siarad am y ffilm ar raglen Cofio, BBC Radio Cymru yr wythnos hon, dywedodd y cyfarwyddwr Wil Aaron: "Dwi ddim yn siŵr p'run ai compliment yw hwnna neu beirniadaeth!"

'Diniwed'

Ffilm gynharach gan Wil Aaron oedd y "comedi tywyll" Gwaed ar y Sêr, 1976, oedd yn dangos pobl enwog fel Hywel Gwynfryn, Dafydd Iwan, Barry John a Thelynores Dwyryd yn cael eu lladd mewn gwahanol ffyrdd bisâr.

Fe gafodd hithau ei dangos i blant mewn gwahanol ganolfannau hefyd.

"Y broblem gyda ffilmiau Cymraeg bryd hynny," meddai Wil Aaron "oedd fod pawb yn cymryd yn ganiataol bod nhw y math o beth fyse'n cael ei ddangos yn yr Ysgol Sul.

"Oedd neb yn ystyried falle bod na 'chydig bach o ryw a chydig bach o ofn ynddyn nhw ..."

Roedd hi'n oes wahanol ac mae Wil Aaron yn disgrifio O'r Ddaear Hen fel ffilm "ddiniwed" iawn erbyn hyn. Ond trïwch chi ddweud hynny wrth y plant bach gafodd eu gorfodi i'w gwylio yn nechrau'r wythdegau!

Image copyright Bwrdd Ffilmiau Cymraeg

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.