Ail gyflwyno deddfwriaeth i hybu iechyd a lles y cyhoedd

E sigarennau Image copyright Thinkstock
Image caption Dyw gwahardd e-sigarennau ddim yn y mesur y tro yma

Mae cynlluniau i gyflwyno cyfraith newydd er mwyn ceisio hybu iechyd a lles y cyhoedd wedi cael eu hail-gyflwyno gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r mesur iechyd cyhoeddus yn cynnwys gwaharddiad ar 'smygu ar dir ysbytai, ysgolion ac mewn parciau chwarae.

Ond dyw'r ddeddfwriaeth ddim yn cynnwys cynnig dadleuol i wahardd defnyddio e-sigarennau mewn rhai mannau cyhoeddus sydd dan do.

Dyma'r ail ymgais gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno'r ddeddfwriaeth.

'Cheap date'

Fe gafodd y mesur gwreiddiol ei drechu ym mis Mawrth yn dilyn penderfyniad munud olaf gan Plaid Cymru i'w wrthwynebu.

Roedd ACau Plaid Cymru yn gandryll ar ôl i'r cyn weinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews ddisgrifio Plaid fel "cheap date" wrth gyfeirio at gytundeb blaenorol rhyngddynt a'r blaid Lafur.

Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru, gafod eu hamlinellu gyntaf yn 2014, yn cynnwys rheoliadau yn ymwneud a thatŵau ac yn gwahardd tyllu rhannau personol o gorff unrhyw unigolyn dan 16 oed.

Image copyright PA

Fe fydd hefyd yn rhaid i gyrff cyhoeddus asesu beth yw effaith eu penderfyniadau ar iechyd corfforol a meddyliol.

Er enghraifft os oes cynllun i adeiladu heol newydd neu leoli bwyty prydau parod ger llaw ysgol, yna fe fyddai'n rhaid i gynghorau ystyried yr effaith ar iechyd.

Mae mesur hefyd yn cynnig:

  • Cynnal cofrestr genedlaethol o werthwyr tybaco neu nicotin, fel bod awdurdodau lleol yn gallu gorfodi deddfwriaeth yn well ac addysgu a chefnogi gwerthwyr
  • Gwahardd cynnyrch tybaco a nicotin rhag cael eu rhoi i unigolion o dan 18 oed, er enghraifft drwy wasanaeth cludo cynnyrch sy'n cael ei gynnig gan archfarchnadoedd
  • Gorfodi cyrff cyhoeddus yng Nghymru i asesu sut bydd eu penderfyniadau yn effeithio ar iechyd corfforol a meddwl unigolion
  • Gorfodi awdurdodau lleol i lunio strategaeth am doiledau at ddefnydd y cyhoedd yn eu hardal
  • Gwneud fferyllfeydd yn fwy atebol i anghenion eu cymuned leol

Fe wnaeth y Prif Weinidog Carwyn Jones, gadarnhau ym mis Mai, y byddai'r llywodraeth yn rhoi'r gorau i geisio cyflwyno gwaharddiad ar e-sigarennau mewn mannau cyhoeddus.

Wrth lansio'r mesur mewn parc chwarae yn y brifddinas dywedodd Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Hybu iechyd plant a phobl ifanc yw'r nod sy'n ganolog i'r Bil.

"Bwriad y cynigion fel y gwaharddiad ar 'smygu ar dir ysgolion ac mewn meysydd chwarae yw atal plant rhag dod i gysylltiad ag ymddygiadau yn ymwneud â smygu.

Eisiau gweld gwelliannau

"Bydd hyn yn golygu eu bod nhw'n llai tebygol o ddechrau 'smygu eu hunain.

"Mae'r Bil yn canolbwyntio hefyd ar wella lles pobl gan sicrhau, er enghraifft, fod awdurdodau lleol yn cynllunio ar gyfer diwallu anghenion y bobl leol i gael mynediad at gyfleusterau toiled.

"O ganlyniad, bydd pobl hŷn, pobl anabl a phobl sy'n gofalu am blant ifanc yn gallu gadael y tŷ heb orfod poeni bod perygl iddyn nhw wynebu embaras.

"Yn gyffredinol, mae iechyd pobl Cymru yn gwella ond rydyn ni yn wynebu heriau ac rydyn ni am weld gwelliannau'n digwydd yn gyflymach. Rwy'n hyderus y bydd Bil Iechyd y Cyhoedd yn ein helpu i gyflawni'r nodau hyn."

'Gwneud gwahaniaeth'

Mae'r mesur wedi cael ei gefnogi gan nifer o fudiadau cyhoeddus.

Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Sarah Rochira yn y gorffennol fod y dyletswydd ar gynghorau i sicrhau bod yna ddigon o doiledau cyhoeddus ar gael yn eu hardaloedd yn un pwysig.

"Mae diffyg toiledau cyhoeddus yn cael effaith ar iechyd corfforol pobl hŷn, gan gynyddu'r risg o glefyd y galon a strôc, ond hefyd eu hiechyd meddyliol, gyda chysylltiad clir rhwng ynysu cymdeithasol ac iselder," meddai.

Dywedodd Katan Costello, sydd yn berchen stiwdio tatŵ yng Nghaerdydd, bod y ddeddfwriaeth yn mynd i "wneud gwahaniaeth mawr yn y diwydiant".

"Fe fydd y cyhoedd yn gallu dod mewn, gweld bod yr adeilad wedi ei drwyddedu, bod y tatŵydd wedi cael trwydded ac wedi cofrestru," meddai.

"Fe fyddan nhw'n gallu llenwi ffurflenni, siarad gyda'r tatŵydd a gwybod eu bod nhw mewn dwylo saff."