Pryder am effaith cynnydd 130% cyfraddau busnes yng Nghymru

david tovey
Image caption Fe allai'r newid i gyfraddau busnes olygu bod ei gwmni'n mynd i'r wal, yn ôl David Tovey

Mae perchnogion cwmnïau yn Sir Fynwy wedi dweud wrth BBC Cymru y gallen nhw fynd i'r wal oherwydd cynnydd i gyfraddau busnes yng nghefn gwlad Cymru maen nhw'n ei weld yn annheg.

Mae rhai wedi gweld cynnydd o dros 130% ac yn dweud ei fod yn hoelen arall yn arch y stryd fawr mewn nifer o ardaloedd gwledig.

Yn ôl ffigyrau Llywodraeth y DU fe fydd y cyfartaledd yn cwympo yn ninasoedd Cymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n darparu £200m o gymorth tuag at gyfraddau busnes y flwyddyn nesaf, ac mae eu hymgynghoriad ar y mater yn dod i ben ddydd Gwener.

'Busnesau'n gynddeiriog'

Mae David Tovey, sy'n mewnforio te prin, yn dweud y bydd ei gyfradd yn codi o fwy na 60%.

"Mae'r £2,500 ychwanegol yna mwy na thebyg yn mynd i olygu un ai na fyddai'n gallu rhoi bwyd ar y bwrdd, neu y bydd rhaid i mi ystyried gwerthu'r busnes, ac ar hyn o bryd dyna sydd fwyaf tebygol," meddai.

Dywedodd Phillip Ramsden, sydd yn rhedeg tafarn y Gatehouse yn Nhrefynwy, y bydd ei gyfradd ef yn codi o £15,000 - cynnydd o bron 140%.

"Roeddwn i'n gynddeiriog, achos roeddwn i'n disgwyl rhyw fath o gynnydd, ond pan welais i'r cynnydd gawson ni - dyw hynny ddim yn bosib. Fe fyddai'n rhaid i ni edrych ar ein costau, gan gynnwys ein staff," meddai.

Image caption Mae'r llywodraeth wedi dweud y bydd yn rhoi cymorth cyfraddau busnes

Mae cyfraddau busnes ar draws Cymru a Lloegr wedi cael eu hailgyfrif, gyda'r cyfraddau yn seiliedig ar y cyfan ar faint fyddai cost rhentu'r eiddo.

Y tro diwethaf iddo gael ei gyfrif oedd yn 2010, yn seiliedig ar brisiau 2008. Mae'r gyfradd newydd yn seiliedig ar brisiau 2015 ac fe fydd yn dod i rym ym mis Ebrill.

Mae ffigyrau Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi dangos bod disgwyl i gyfraddau yng Nghymru ostwng mewn dinasoedd ond codi mewn ardaloedd gwledig.

Does dim rhaid i'r busnesau lleiaf dalu cyfraddau busnes.

Cynllun lleddfu

Yn ôl David Cummings, cadeirydd Siambr Fasnach Trefynwy, dylai Llywodraeth Cymru fod wedi gwneud mwy i dynnu sylw at oblygiadau posib y newid.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn esgeulus yn y ffordd maen nhw wedi darparu gwybodaeth i fusnesau," meddai.

"Fe gyhoeddwyd canlyniadau'r Swyddfa Brisio ar 30 Medi, ac ers hynny dydw i heb glywed unrhyw beth gan Lywodraeth Cymru. Dwi'n meddwl y dylen nhw fod wedi cael rhywun yn monitro canlyniadau ac adnabod ardaloedd ble roedd problem."

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Fe fydd ein cynllun Lleddfu Cyfraddau Busnesau Bach yn arbed busnesau bach yng Nghymru rhag gorfod talu £100m o dreth yn 2017/18, ac fe fydd cynllun talu newydd yn cael ei gyflwyno o 2018 ymlaen.

"Rydyn ni hefyd yn gwybod fod cyfraddau busnes yn gallu cynrychioli cyfran uwch o gostau busnesau bach - dyna pam y gwnaethon ni benderfynu gweithredu a chyhoeddi cynllun lleddfu gwerth £10m, fydd ar gael o 1 Ebrill 2017 pan fydd yr ailbrisiad yn dod i rym. Llywodraeth Cymru fydd yn ariannu hyn, ac mae'n ychwanegol ar y cynllun Lleddfu Cyfraddau Busnesau Bach ar gyfer 2017/18.

"Mae'r holl sefydliadau sydd yn cynrychioli busnesau wedi cael cyfle i wneud sylw ar y cynllun drwy ein hymgynghoriad, sydd ar gael ar ein gwefan. Mae'r cyfnod y mae'r ymgynghoriad ar agor yn fyrrach na'r arfer gan ei bod hi'n bwysig i'r cynllun fod yn ei le pan fydd yr ailbrisiad yn dod i rym."