£3m i ferch gafodd ei pharlysu ar ôl disgyn o geffyl

Ashleigh harris Image copyright Paul Keogh
Image caption Cafodd Ashleigh Harris anafiadau difrifol yn y digwyddiad yn 2012

Mae merch gafodd ei pharlysu ar ôl disgyn o geffyl wedi ennill £3m o iawndal ar ôl ennill achos llys yn erbyn mam ei chyn-gariad.

Roedd Ashleigh Harris yn 14 pan dorrodd ei chefn ar ôl disgyn o geffyl rasio Rachel Miller, mam ei chariad ar y pryd, Keiran Miller.

Clywodd yr achos bod Mrs Miller wedi annog Ms Harris i fynd ar gefn y ceffyl mawr, er ei bod hi ond wedi marchogaeth merlod yn y gorffennol.

Wrth ddyfarnu, dywedodd y barnwr Graham Wood QC bod Mrs Miller, o bentref Matharn ger Cas-gwent, wedi rhoi Ms Harris mewn perygl o niwed.

'Camgymeriad difrifol'

Clywodd yr Uchel Lys bod Ms Harris, 18 o Lydney, wedi dioddef anafiadau difrifol yn y digwyddiad, a'i bod hi wedi colli defnydd o'i choesau.

Clywodd yr achos bod y ceffyl, Polly Perks, yn geffyl rasio pur wnaeth Mrs Miller brynu am £550.

Fe wnaeth y barnwr dderbyn bod Ms Harris wedi bod ar gefn y ceffyl pan ddechreuodd "garlamu" a chafodd y ferch ei thaflu o'r anifail.

Er bod gan Ms Harris ychydig o brofiad marchogaeth, dywedodd y barnwr bod Mrs Miller wedi gwneud "camgymeriad difrifol" wrth annog y ferch i fynd ar gefn y ceffyl.

Ychwanegodd ei bod yn "rhesymol" i ragweld y byddai'r ceffyl yn gryf ac anodd ei reoli, gan ddyfarnu iawndal i Ms Harris.

Dywedodd y byddai Mrs Miller yn dioddef yn ariannol oherwydd y dyfarniad, ac felly nad yw'r iawndal wedi ei gadarnhau'n derfynol.