Treviso 28-34 Gleision

Steve Shingler Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Steve Shingler

Roedd 19 pwynt o esgid Steve Shingler yn allweddol wrth i'r Gleision daro nôl i sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Treviso yn Yr Eidal.

Ar un adeg roedd y tîm cartref 12 pwynt ar y blaen.

Roedd perfformiad Sam Warburton yn allweddol wrth i amddiffyn y Gleision ddiogelu eu mantais.

Aeth y Gleision ar y blaen diolch i gais Willis Halaholo.

Cyn hynny fe wnaeth Rhun Williams a Macauley Cook groesi i'r ymwelwyr.