Dreigiau 21-16 Connacht

Ashton Hewitt Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Asgellwr y Dreigiau Ashton Hewitt yn croesi

Fe wnaeth y Dreigiau sicrhau eu hail fuddugoliaeth yn y Pro12 y tymor hwn gyda buddugoliaeth yn erbyn Connacht yn Rodney Parade.

Bu'n rhaid gwrthsefyll pwysau yn hwyr yn y gêm gan yr ymwelwyr er mwyn sicrhau'r pwyntiau.

Aeth y Dregiau ar y blaen diolch i gais Ashton Hewitt, gyda chic Angus O'Brien yn ymestyn y fantais.

Tarodd Connacht yn ôl gyda dwy gic gosb jack Carty ar yr egwyl.

Sgoriodd O'Brien ei ail gais, gan roi'r tîm cartref 15 pwynt ar y blaen ar un adeg yn yr ail hanner.

Ond daeth Connacht yn ôl, diolch i gyflymdra Niyi Adeolokun gyda deg munud yn weddill.

Mae'r canlyniad yn golygu diwedd ar rediad gwael y Dreigiau ar ôl colli saith gêm yn olynol.