Dyn o Gaerwent yn marw ar ôl damwain ffordd

Fe ddigwyddodd y ddamwain ger Northgate House Image copyright JAGGERY/GEOGRAPH
Image caption Fe ddigwyddodd y ddamwain ger Northgate House

Mae dyn wedi marw wedi iddo gael ei daro gan gar yn Sir Fynwy.

Yn ôl yr heddlu, cafodd y dyn ei daro wrth iddo gerdded ar yr A48 ger Northgate House yng Nghaerwent oddeutu 03:30.

Aed â'r dyn, a oedd yn dod o Gaerwent i Ysbyty Brenhinol Gwent ond bu farw yn fuan wedyn.

Gofynnir i unrhyw dyst i'r ddamwain i ffonio Heddlu Gwent ar 101.