Cymru 8-32 Awstralia

cymru Image copyright Reuters

Er gwaetha ymdrechion Cymru i geisio taro'n ôl yn ystod yr ail hanner, roedd trechu'r Wallabies yn ormod o dasg i'r Crysau Cochion ddydd Sadwrn.

Fe ddaeth y pwyntiau cyntaf Awstralia, wrth i Bernard Foley drosi cic gosb.

Fe ddaeth pwyntiau cyntaf Cymru yn fuan iawn wedyn, wrth i Halfpenny (a oedd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf dros ei wlad ers dychwelyd o anaf hir dymor) drosi rhwng y pyst.

Fe aeth pethau o ddrwg i waeth yn fuan iawn wedyn i Gymru, wedi i Dan Biggar gael ei yrru i'r gell gosb am dacl gynnar ar Dane Haylett-Petty.

Image copyright Getty Images

Gyda Chymru lawr i 14 dyn, fe fanteisiodd Awstralia ar y cyfle, gan garlamu ar y blaen o 3-20 cyn yr hanner, gyda cheisiau gan Stephen Moore, Reece Hodge a Tevifa Kuridran.

Wrth i'r chwarae ail ddechrau wedi'r hanner, fe lwyddodd y maswr Bernard Foley i groesi'r llinell unwaith eto i'r ymwelwyr, ond yn methu trosi rhwng y pyst y tro hwn.

Yn fuan iawn wedyn, fe lwyddodd Scott Williams i sgorio cais o gysur i Gymru, ond ofer oedd ymdrech Halfpenny i sicrhau'r sgôr.

'Doedd y prynhawn ddim drosodd i'r Wallabies, wrth i Dane Heylett Petty sgorio cais olaf y gêm, ac yna Foley yn sicrhau'r trosiad ar gyfer y ddau bwynt ychwanegol.