North Ferriby United 0-0 Wrecsam

wrecsam

Fe ddaeth rhediad llwyddiannus North Ferriby United o wyth gêm fuddugol yn y Gynghrair Cenedlaethol i ben, wedi gêm gyfartal yn erbyn Wrecsam.

Gerry McDonagh gafodd y cyfle gorau yn yr hanner cyntaf, a hynny i'r ymwelwyr, ond methodd ei ymgais o chwe llath.

Fe lwyddodd y golwr cartref - Rory Watson i atal ymdrechion Callum Powell a John Rooney, gan sicrhau'r drydedd gêm gyfartal yn olynol i Wrecsam.

Mae Wrecsam yn parhau i fod yn 14eg yn y tabl, yn ogystal â bod naw pwynt o dan y safleoedd ail-gyfle.