Newcastle 2-1 Caerdydd

caerdydd Image copyright Rex Features

Fe enillodd Newcastle eu seithfed buddugoliaeth o'r bron, wrth iddynt guro Caerdydd, a chryfhau eu safle ar frig y Bencampwriaeth.

Fe lwyddodd Christian Atsu i fanteisio ar amddiffyn blêr Caerdydd, gan roi'r tîm cartref ar y blaen wedi dim ond tri munud.

Yoan Gouffran ddaeth a'r ail gôl, a hynny ychydig cyn hanner amser.

Fe ddaeth llygedyn o obaith i Gaerdydd pan sgoriodd yr eilydd Peter Whittingham gyda 13 munud yn weddill, ond nid oedd hynny'n ddigon i'r Adar Gleision, wrth i Newcastle amddiffyn yn gadarn ac felly yn hawlio'r tri phwynt.

Mae Caerdydd yn parhau yn y 21ain safle.