Ystyried codi tollau i'r ddau gyfeiriad ar Bont Hafren

Ail Bont Hafren Image copyright Arall

Fe allai teithwyr orfod talu tollau ar Bont Hafren wrth deithio i'r ddau gyfeiriad os fydd trefn newydd fydd yn ceisio gwneud i draffig lifo'n well yn cael ei chyflwyno.

Dyna mae Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns wedi'i ddweud, wrth i'r llywodraeth ymgynghori ar system fyddai'n caniatáu i yrrwyr deithio rhwng Cymru a Lloegr heb orfod stopio wrth y tollau.

Ar hyn o bryd dim ond teithwyr sydd yn mynd tua'r gorllewin, i mewn i Gymru, sydd yn gorfod talu.

Dywedodd Mr Cairns bod Llywodraeth San Steffan yn ystyried codi toll o £1.80-£1.90 i'r naill gyfeiriad ar gyfer ceir.

Ond fe rybuddiodd y gallai'r dechnoleg ar gyfer y system newydd "fod yn ddrud iawn".

Dyw hi ddim yn glir pryd fydd yr ymgynghoriad yn dechrau, ond mae'r llywodraeth wedi dweud o'r blaen y byddai'n digwydd yn yr hydref.

Ar hyn o bryd mae'n rhaid i deithwyr sydd yn mynd tua'r gorllewin dalu tollau o £6.60, ond mae'r llywodraeth wedi addo haneru'r gost hwnnw pan fydd pontydd Hafren yn dod dan berchnogaeth gyhoeddus yn 2018.

Mae rhai ymgyrchwyr, fodd bynnag, am i'r tollau gael eu dileu yn gyfan gwbl.

'Drud iawn'

Bu Mr Cairns yn siarad ag arweinwyr busnes mewn cyfarfod brecwast yng Nghaerdydd ddydd Gwener.

"Rydyn ni hefyd yn ymgynghori ar system dollau llif rhydd fyddai'n codi tâl ar deithwyr i'r ddau gyfeiriad," meddai, gan ddweud y byddai system o'r fath yn golygu llai o giwio.

"Rydyn ni'n meddwl am tua £1.80 neu £1.90 bob ffordd i geir."

Dywedodd Mr Cairns y byddai faniau ysgafn hefyd yn talu'r un tollau a cheir.

Mae Croesfan Dartford, sydd yn cysylltu Caint ag Essex, yn defnyddio system sydd yn adnabod plât rhifau ceir yn awtomatig, gan ganiatáu gyrrwyr i dalu ar-lein, mewn siopau neu ar y ffôn cyn, neu ar ôl iddyn nhw groesi.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru bod y llywodraeth yn edrych ar sut roedd y system yn gweithio fanno, ond "mae'n ddrud iawn i'w weithredu a does dim llawer o gystadleuaeth pan mae'n dod at y dechnoleg".

'Anfon neges dda'

Yn ôl Emma Watkins, cyfarwyddwr CBI Wales, byddai'n rhaid i system dollau llif rhydd fod yn rhan o "becyn cyflawn" o leihau'r tollau, gan roi'r argraff bod Cymru "yn agored i fusnes".

"Dyw cael ciwiau wrth y tollau ac yn nhwnneli Brynglas, yn ogystal â'r gost o ddod i mewn, ddim yn anfon neges dda," meddai.

Ychwanegodd fod y CBI yn "ymwybodol mai ychydig iawn sydd yn gallu darparu system o'r fath a bod pryderon ynglŷn â'r gost".

"Rydyn ni'n gwybod fod angen edrych ar y peth yn fanylach," meddai.

Mae'r cynghorydd John Warman, sydd yn aelod o ymgyrch i ddileu'r tollau ar Bont Hafren, hefyd wedi mynnu bod parhau i godi ffi ar deithwyr yn llesteirio economi Cymru.

Dywedodd Mr Warman, sydd yn gynghorydd yn ward Cimla yng Nghastell-nedd Port Talbot, y byddai gyrrwyr yn talu bron yr un faint ag y maen nhw ar hyn o bryd o dan y newidiadau yr oedd Mr Cairns wedi'u hawgrymu.