Abertawe 1-3 Manchester United

pogba Image copyright PA
Image caption Gôl Pogba o ymyl y cwrt cosbi roddodd Man United ar y blaen

Roedd goliau yn yr hanner cyntaf i Paul Pogba a Zlatan Ibrahimovic yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus i Manchester United yn Stadiwm Liberty.

Fe wnaeth Bob Bradley bedwar newid i'w dîm yn dilyn o golled i Stoke nos Lun wrth iddo chwilio am ei fuddugoliaeth gyntaf fel rheolwr Abertawe, gydag Angel Rangel, Stephen Kingsley, Leon Britton a Borja Baston yn dod i mewn yn lle Kyle Naughton, Neil Taylor, Leroy Fer a Modou Barrow.

Ond roedd yr ymwelwyr ar y blaen ar ôl chwarter awr o chwarae wrth i Pogba daro hanner foli o ymyl y cwrt cosbi a hedfannodd i gefn y rhwyd.

Chwe munud yn ddiweddarach dyblwyd y fantais gan Ibrahimovic, wrth i'r ymosodwr fynd heibio i Ki Sung Yeung cyn taro ergyd isel o ryw 20 llathen heibio i Lukasz Fabianksi yn y gôl.

Ac roedd yr ornest fwy neu lai ar ben wedi ychydig 33 munud, wrth i Ibrahimovic ychwanegu ei ail gôl ar ôl cael y gorau o Rangel.

Torf anhapus

Fe wnaeth Bradley ddau newid yn ystod yr egwyl, gan ddod â Barrow a Jefferson Montero i'r maes yn lle Routledge a Fernando Llorente.

Yr un oedd y stori ar ddechrau'r ail hanner, gyda Manchester United yn rheoli'r gêm ac yn edrych yn gyfforddus.

Roedd y dorf yn Stadiwm Liberty yn amlwg yn anhapus â'r hyn roedden nhw'n ei wylio hefyd, gyda rhai yn cael eu clywed yn beirniadu perchnogion newydd Americanaidd y clwb.

Ond fe ddechreuodd Abertawe gael cyfleoedd, ac ar ôl 69 munud fe beniodd Mike van der Hoorn y bêl i gefn y rhwyd o groesiad Gylfi Sigurdsson i roi gobaith i'r Elyrch.

Daeth Leroy Fer ymlaen am Leon Britton wrth i Bradley eilyddio am y tro olaf, ond ni chafodd hynny effaith ar y sgôr wrth i'r ymwelwyr ddal eu gafael ar y tri phwynt.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Abertawe yn aros yn 19ain yn yr Uwch Gynghrair gyda phum pwynt, o flaen Sunderland ar wahaniaeth goliau yn unig, a chwe phwynt y tu ôl i West Ham sydd yn 17fed.