Ben Davies allan o garfan Cymru i wynebu Serbia

ben davies Image copyright Michael Steele'Getty Images
Image caption Ben Davies yn cystadlu am y bêl yn ystod y gêm gyfartal â Georgia ym mis Hydref

Mae'r amddiffynnwr Ben Davies wedi gorfod tynnu nôl o garfan Cymru i wynebu Serbia oherwydd anaf.

Fe fethodd Davies gêm Tottenham Hotspur dros y penwythnos gydag anaf i'w ffêr, a fydd e ddim yn holliach erbyn yr ornest yng ngrŵp rhagbrofol Cwpan y Byd.

Cefnwr Bristol City, Adam Matthews sydd wedi cael ei alw i'r garfan yn ei le.

Bydd carfan Cymru yn cwrdd ddydd Llun i ddechrau eu paratoadau ar gyfer y gêm, gan wybod y gallai buddugoliaeth ddydd Sadwrn eu codi nhw i frig y grŵp.

Er nad yw Davies ar gael fe fydd y rheolwr Chris Coleman yn croesawu Aaron Ramsey, Joe Allen a Jonny Williams yn ôl wedi iddyn nhw fethu gemau diweddar ag anafiadau.

Ac yn ôl yr is-reolwr Osian Roberts, mae'n hwb mawr i'r tîm fod chwaraewyr fel Allen a Gareth Bale wedi bod yn perfformio'n dda i'w clybiau'n ddiweddar.

"Mae Gareth 'di bod ar dân yn Sbaen, wedi sgorio dwy gôl eto [ddydd Sul]," meddai.

"Fel chwaraewr canol cae amddiffynnol mae [Allen] yn un o'r goreuon yn yr Uwch Gynghrair, a rŵan mae o'n dangos pa mor ddefnyddiol ac effeithiol mae on gallu bod yn safle'r rhif 10 hefyd, mae ei ddealltwriaeth o'r gêm yn wych.

"Mae genna ni lot o waith i'w wneud wythnos yma a 'dan ni'n edrych 'mlaen i wneud hynny. Rydan ni'n gwybod y bydd o'n her, mae Serbia wastad yn brawf anodd, rydan ni'n eu cofio nhw'n dda iawn!"

Cyfle i Dummett?

Un chwaraewr allai gael ei ddewis ar gyfer y gêm yn sgil absenoldeb Ben Davies yw'r cefnwr chwith Paul Dummett, sydd wedi ennill dau gap dros Gymru.

"Mae'n gêm enfawr i ni, rydan ni'n gwybod fod y grŵp yn un tynn, felly mae hi'n gêm sydd yn rhaid ennill, mwy na thebyg," meddai.

Mae Dummett hefyd yn gyfarwydd iawn ag ymosodwr Serbia, Aleksandar Mitrovic, sydd yn gyd-chwaraewr iddo gyda Newcastle.

Fe sgoriodd Mitrovic ddwy gôl wrth i Serbia drechu Awstria o 3-2 yn eu gêm ddiwethaf i symud i frig y grŵp rhagbrofol, ac mae disgwyl iddo arwain y linell ymosodol yn erbyn Cymru nos Sadwrn.

"Mae o'n bresenoldeb corfforol iawn, mae'n dda yn dal y bêl i fyny ac yn y cwrt cosbi, felly mi fydd hi'n gêm galed i ni yn eu herbyn nhw," meddai Dummett.

"Fe wnai adael i'r staff hyfforddi wybod popeth dwi'n ei wybod amdano!"