Dwy fedal efydd i dîm seiclo Cymru yng Nghwpan y Byd

Lewis Oliva Image copyright Seiclo Prydain

Mae'r Cymry Lewis Oliva a Sam Harrison wedi ennill medalau efydd yng Nghwpan Seiclo'r Byd yn Glasgow.

Yn seiclo dros Gymru drwy Dîm USN, enillodd Sam Harrison medal gyntaf y noson yn y ras bwyntiau yn Felodrom Syr Chris Hoy.

Achubodd ei goesau yn gynnar yn y ras 120 lap, gan gymryd dau bwynt yn y pedwerydd sbrint.

Wrth i'r ras ddatblygu a'r arweinwyr yn dechrau blino, casglodd Harrison saith pwynt sbrint ychwanegol ac ymunodd â Meyer (Awstralia) a Thomas (Ffrainc) am lap.

Cymerodd y triawd y llefydd ar y podiwm gyda Harrison yn drydydd.

'Hapus iawn'

Dywedodd Harrison bod y canlyniad yn "grêt" i'r tîm: "Roeddwn i'n hapus iawn 'efo fy mherfformiad heddiw. Mae Darren Tudor a Seiclo Cymru wedi buddsoddi lot o amser ers i mi adael Seiclo Prydain, felly mae'r fedal heddiw yn un i'r tîm ac yn gôl bersonol i fi.

"Y plan oedd achub fy hun yn gynnar, ond cymrodd Mark Stewart a Cameron Meyer lap ac o' ni'n credu nid fy nydd i yw hyn.

"Yn y 40 lap olaf nes i bigo fyny rhai pwyntiau ac oddan i ar y brig. Gyda 15 lap i fynd o' ni'n teimlo'n grêt, oedd gen i'r coesau ac o' ni eisiau mynd amdani.

"Roedd hi'n bach o sioc ond dwi'n hapus iawn."

Yn gynt yn y dydd, bu Harrisson, o Rhisga, a Jon Mould o Gasnewydd yn cystadlu yn y Ras Scratch, gyda'r ddau yn gorffen yn wythfed ac yn bymthegfed.

Image copyright Getty Images
Image caption Dywedodd Sam Harrison ei fod yn hapus hefo'i berfformiad yn Glasgow

Daeth yr ail fedal i'r gwibiwr Lewis Oliva yn y ras Keirin.

Cyrhaeddodd Oliva'r rownd derfynol ar ôl i Kawabata o Japan gael ei ddiarddel.

Dywedodd Oliva, a ddaeth yn nawfed yn y sbrint ddydd Gwener: "Doeddwn i'm yn siŵr sut oedd fy ymarfer yn mynd yng Nghasnewydd, ond o' ni'n gwybod o' ni mewn cyflwr da ar ôl yr amodau gwibio."

"Mae gwersi mawr 'di cael ei dysgu 'efo'r rheolau Keirin newydd," meddai. "Er newidiodd y cynllun ar ôl pob rownd, fe ddes i'n fwy amyneddgar ac yn fwy hyderus.

"Mae'n anodd d'eud os yw'r ffurf newydd yn siwtio fi eto, ond mae'r ras yn dal i fod yn un ffefryn i mi a dwi'n edrych i ddatblygu a symud fyny'r podiwm yng nghyfres Trac Cwpan y Byd."

Bu Manon Lloyd ac Emily Lloyd hefyd yn fuddugol dros y penwythnos ar ôl ennill medalau aur fel rhan o dîm Prydain yn erbyn yr Eidal yn y ras ymlid.

Bydd Harrison ac Oliva yn cystadlu yng Nghwpan y Byd yn Apeldoorn o 11-13 Tachwedd.