Cory Allen a Tomos Williams wedi'u galw i garfan Cymru

Cory Allen Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae gan Cory Allen bedwar cap dros Gymru, ac roedd yn rhan o'r garfan ar gyfer Cwpan y Byd llynedd

Mae Cory Allen a Tomos Williams, dau o chwaraewr y Gleision, wedi cael eu galw i fod yn rhan o garfan rygbi Cymru.

Mae'r tîm yn wynebu'r Ariannin ddydd Sadwrn fel rhan o gyfres tymor yr hydref.

Colli o 32-8 i Awstralia fu eu hanes nhw yng ngêm gyntaf y gyfres dros y penwythnos.

Mae Allen wedi ei ddewis ar ôl i'r canolwr Tyler Morgan gael anaf i linyn y gâr, tra bod Williams wedi ei ddewis am fod y mewnwr Rhys Webb wedi cael problem gyda'i bigwrn.

Mae yna amheuaeth a fydd Webb yn gallu chwarae yng ngweddill gemau'r gyfres.

Dyw Tomos Williams, 21, ddim wedi cael cap i Gymru o'r blaen.