Iwan Roberts yn trafod Paul Dummett
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Iwan Roberts: Angen i Gymru roi cyfle i Paul Dummett

8 Tachwedd 2016 Diweddarwyd 08:29 GMT

Fe ddylai Chris Coleman ddewis yr Paul Dummett yn nhîm Cymru i wynebu Serbia yn sgil anaf Ben Davies, yn ôl y sylwebydd Iwan Roberts.

Bydd Ben Davies yn methu'r ornest ddydd Sadwrn ag anaf, ac mae hynny'n golygu y gallai Dummett, James Collins neu Adam Matthews orfod camu i'r adwy yn yr amddiffyn.

Gallai buddugoliaeth yn erbyn Serbia godi Cymru i frig eu grŵp rhagbrofol wrth iddyn nhw geisio cyrraedd Cwpan y Byd 2018.