James Collins allan o garfan Cymru i wynebu Serbia

James Collins Image copyright Getty Images

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau bod James Collins wedi tynnu nôl o garfan Cymru i wynebu Serbia nos Sadwrn.

Fe fydd Joe Walsh, amddiffynnwr MK Dons sydd eto i ennill ei gap cyntaf, yn ymuno â'r garfan yn ei le.

Mae Ben Davies eisoes wedi gorfod tynnu nôl gydag anaf i'w ffêr, ac fe fydd absenoldeb Collins yn rhoi cur pen amddiffynnol ychwanegol i'r rheolwr Chris Coleman.

Mae Walsh, 24, wedi chwarae dros dîm dan-21 Cymru yn y gorffennol ac fe gafodd ei enwi yng ngharfan y tîm cyntaf ar gyfer gemau yn erbyn Bosnia-Herzegovina a Chyprus yn 2014.

Yn sgil anaf Davies, oedd yn un o sêr y tîm yn ystod Euro 2016, mae cyn-ymosodwr Cymru Iwan Roberts wedi dweud y dylai Paul Dummett o Newcastle gael ei ddewis yn yr amddiffyn.

Mae Cymru'n drydydd yn eu grŵp rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2018 ar hyn o bryd, dau bwynt y tu ôl i Serbia, ac fe allen nhw godi i'r brig gyda buddugoliaeth yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Sadwrn.