Plaid Cymru yn galw am Fesur Dilyniant yr UE i Gymru

Brexit

Dylai holl reoliadau'r Undeb Ewropeaidd gael eu hymgorffori yng nghyfraith Cymru "i atal Llywodraeth Prydain rhag cipio pwerau'n ôl", medd Plaid Cymru.

Byddai Mesur Dilyniand yr UE i Gymru yn atal pwerau datganoledig rhag cwympo i ddwylo Llywodraeth San Steffan, medd yr Aelod Cynulliad, Steffan Lewis.

Dywedodd ei bod yn "hanfodol" i'r economi fod Cymru "yn gydnaws â rheoliadau'r UE".

Dywedodd UKIP fod y cam yn "stynt" annemocrataidd.

Mae'r Prif Weinidog Theresa May wedi addo cyflwyno Bil Diddymu Mawr yn araith nesa'r Frenhines, fyddai'n diddymu'r Ddeddf Cymunedau Ewropeaidd 1972 ond a fyddai'n ymgorffori holl gyfreithiau presennol yr UE yng nghyfraith Prydain.

Ond dywedodd Mr Lewis, llefarydd Plaid Cymru ar Brexit: "Mae angen Mesur Dilyniant yr UE ar Gymru i ymgorffori holl reoliadau presennol yr UE yng nghyfraith Cymru.

"Bydd hyn yn sicrhau y bydd y safonau sydd mor werthfawr i ni, megis mesurau gwarchod amgylcheddol, safonau bwyd, a'r hawliau y daethom i'w cymryd yn ganiataol fel dinasyddion yr UE, yn parhau i fod yn gymwys i Gymru ar ôl Brexit.

"Bydd hefyd yn atal Mesur Diddymu'r UE y Ceidwadwyr rhag troi yn ymgais gan San Steffan i gipio'n ôl y pwerau dros faterion sydd eisoes wedi eu datganoli."

Ychwanegodd: "Mae 200,000 o swyddi yng Nghymru yn dibynnu ar fasnachu gydag Ewrop. Mae'n hanfodol i'n heconomi ein bod yn cadw Cymru yn gydnaws â rheoliadau'r UE."

Mae gan yr Undeb Ewropeaidd reoliadau ar rai meysydd, fel amaethyddiaeth, sydd wedi eu datganoli i'r Cynulliad.

'Stynt gwleidyddol'

Dywedodd llefarydd ar ran grŵp UKIP yn y Cynulliad: "Mae hwn yn stynt gwleidyddol annemocrataidd.

"Bydd pendefyniadau gwleidyddol yn cael eu gwneud gan wleidyddion etholedig yn San Steffan a Bae Caerdydd yn y dyfodol, ac nid gan fiwrocratiaid anetholedig ym Mrwsel.

"Pa fath o blaid genedlaetholgar fyddai eisiau gweld Cymru'n cael ei rheoli gan Frwsel yn hytrach na Chaerdydd?"

Dywedodd llefarydd ar ran Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru fod yr alwad yn "atgyfnerthu pa mor bell y mae Plaid Cymru o farn y cyhoedd".

"Dim ond ychydig wythnosau yn ôl, fe bleidleisiodd pobl Cymru dros adfer sofraniaeth cyfraith Prydain - nid cyflwyno mesur newydd fyddai'n atgyfnerthu pob gorchymyn a chyfarwyddyd sy'n dod o Frwsel," dywedodd.

Mae Llywodraeth Prydain wedi cael cais i ymateb.