£581,000 am stand hetiau Tsieineaidd o Gymru

Stand hetiau Image copyright GEOGRAPH/COLIN SMITH/CHRISTIE'S

Mae stand hetiau Tsieineaidd fu'n ddodrefnyn mewn tŷ yng Nghymru am ddegawdau wedi ei werthu am £581,000 mewn arwerthiant.

Cadarnhaodd Christie's fod y stand wedi ei werthu am ddwywaith yr amcangyfrif o rhwng £200,000 a £300,000.

Mae'n debyg ei fod wedi ei wneud yng nghanol y 19fed Ganrif ar gyfer Qing, ymerawdwr Dauguang.

Roedd yn cael ei ddisgrifio yng nghatalog Christie's fel eitem "prin iawn" wedi ei addurno a dreigiau, cymylau, fflamau a thonnau.

Fe gafodd ei droi o fod yn stand hetiau i fod yn lamp gan ei berchnogion, a dim ond yn ddiweddar y daeth ei werth i'r amlwg.

Dyw Christie's ddim am ddatgelu pwy brynodd y stand hetiau.