Yr asgellwr Keelan Giles wedi'i alw i garfan rygbi Cymru

Keelan Giles Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae Keelan Giles wedi creu argraff ar yr asgell i'r Gweilch eleni

Mae asgellwr y Gweilch Keelan Giles wedi cael ei alw i garfan rygbi Cymru yn dilyn anaf i Hallam Amos.

Cafodd Giles, 18, ei alw i garfan Cymru ar gyfer eu taith i Seland Newydd dros yr haf ond dyw e heb ennill cap llawn eto.

Mae wedi chwarae sawl gwaith dros dîm dan-20 Cymru, ac wedi sgorio wyth cais mewn pum gêm i'w ranbarth y tymor hwn.

Bydd Amos yn dychwelyd i'r Dreigiau ar ôl anafu'i ysgwydd yn y golled i Awstralia dros y penwythnos.

Mae Cory Allen a Tomos Williams eisoes wedi cael eu hychwanegu i'r garfan yr wythnos hon yn dilyn anafiadau i Rhys Webb a Tyler Morgan.