Sut mae bod yn Gymraes?

Jana

Beth yw hunaniaeth genedlaethol ac oes modd ei newid? Dyma gwestiwn ofynnodd Jana Romanova, artist o Rwsia, wrth iddi dreulio amser yn gweithio ar brosiect yng Nghymru.

Mi fuodd Jana yn rhannu ei hargraffiadau a rhai o'r lluniau dynnodd hi gyda Cymru Fyw.


'Balchder a chywilydd'

Cefais fy ngeni yn Saint-Petersburg, i deulu lle roedd hunaniaeth genedlaethol byth yn cael ei drafod - doeddwn i byth yn meddwl bod eich hunaniaeth genedlaethol yn rhywbeth i'ch diffinio neu yn rhywbeth i deimlo balchder neu gywilydd ohoni.

Felly pan dechreuodd llawer o bobl gwestiynu beth yw hi i fod yn Rwsiaidd wnes i sylweddoli nad oedd gen i ateb, er ma' merch o Rwsia ydw i. Mi ges i'r syniad ar gyfer y prosiect yn 2014 pan roedd y syniad o hunaniaeth Rwsiaidd dan y chwyddwydr yn dilyn y Gemau Olympaidd diwethaf a'r refferendwm yn y Crimea.

Roedd yna beryg y gallai hi fod yn anodd deall beth sy'n arbennig am grŵp o bobl rwy'n perthyn iddo. Felly mi wnes i benderfynu arbrofi a dod i Gymru, rhywle sydd â diffiniad chlir (fel yr ymddengys) o hunaniaeth genedlaethol oherwydd ffactorau diwylliannol ac hanesyddol.

Image caption Jana (ar y pen) yn ymarfer canu gyda Côrdydd yng nghapel Salem Treganna, Caerdydd

Y Mabinogion

Tra ro'n i'n chwilio am gyfleoedd fe wnes i ddeall bod nawdd ar gael gan Ffotogallery yng Nghaerdydd fel rhan o brosiect Ewropeaidd. Roedd ganddyn nhw ddiddordeb mewn gofyn 'Pa mor Ewropeaidd yw Cymru?'

Felly wnes i gynnig gwneud arbrawf i drio gweld os byddwn i'n cael fy nerbyn gan gymuned Gymreig ac os byswn i'n gallu troi'n Gymraes a finnau'n dod o dramor. Roedd hefyd yn gyfle i edrych ar fy hunaniaeth fy hun hefyd.

Gofynnodd nifer fawr o bobl i mi ar ôl cyrraedd sut mod i'n gwybod am Gymru. Atebais trwy ddweud fy mod i wedi darllen y Mabinogion yn yr ysgol ac ro'n i'n gwybod am y brwydrau am annibyniaeth i Gymru dros y blynyddoedd.

Image caption Yn y sedd flaen mewn gwasanaeth capel

Roedd yr holl brosiect wedi'i seilio ar arbrawf lle o'n i'n gofyn i bobl oedd yn ystyried eu hunain yn Gymry os oedd hi'n bosib i mi fod yn Gymraes hefyd.

Wrth chwilio am wirfoddolwyr wnes i ddim mynnu y dylen nhw fod wedi eu geni yng Nghymru neu beidio - roedd o i fyny iddyn nhw yn llwyr os oedden nhw yn ystyried eu hunain yn Gymry neu beidio.

Ro'n i yn safle rhywun o dramor a oedd yn gofyn i ferched sut i fod yn Gymraes. Pan ro'n i'n gofyn y cwestiwn, ar y foment yna, roedd y gwirfoddolwyr i gyd yn troi mewn i gynrychiolydd o Gymru fel cenedl. Roedd o'n weladwy iawn yn gorfforol hefyd - roedd y gwirfoddolwyr fel petai rhywbeth yn sefyll tu ôl iddyn nhw, roedden nhw i'w weld yn amddiffynnol fel eu bod nhw mewn sefyllfa o bŵer.

Image caption Jana (yn y cefndir yn y crys coch a glas) yn mwynhau sesiwn ymarfer rygbi

Cyngor y Cymry

Ro'n i wedi fy synnu gyda'r ffaith fod pawb wnes i ofyn iddyn nhw, heblaw am un, wedi ateb "oes" pan wnes i ofyn iddyn nhw os oedd hi'n bosib i mi fod yn Gymraes. Yn aml iawn roedd llawer yn dweud wrtha i fod Cymru'n genedl groesawgar, ac mi wnes i deimlo hynny.

Pan wnes i ofyn am gyngor ar sut i fod yn Gymraes, roedd pawb yn dueddol o ddweud yr un peth: chwarae rygbi, cefnogi rygbi, yfed lot o alcohol ar brif stryd Caerdydd, dysgu dawnsio gwerin, canu mewn côr, siarad Cymraeg (er nad oedd pawb yn argymell hynny) a mynd i eglwys Gymraeg. Roedd o'n ddiddorol bod llawer o bobl ddim yn dilyn eu cyngor eu hunain - eu bod yn eu hystyried yn bethau Cymreig i'w gwneud, ond yn rhywbeth i bobl eraill.

Hefyd, dwi'n falch fy mod i wedi cael y cyfle i ddangos i'r Cymry mod i'n berson da, gan fod Rwsiaid yn cael eu portreadu yn ymosodol yn y cyfryngau. Wedi i mi dderbyn y cyngor o sut i fod yn Gymraes dechreuais eu gweithredu, ac mae'r prosiect yn nodi fy ymdrech i ddilyn y cyngor gafodd ei roi i fi yn ogystal â phethau eraill a oedd yn adlewyrchu fy nheimladau yn ystod yr arbrawf.

Image caption Cael hwyl wrth ddysgu cymhlethdodau dawnsio gwerin

"Ddim eisiau siomi fy hunaniaeth"

Yn bersonol, ro'n i'n ffeindio fy hunaniaeth Rwsaidd yn ymddangos fwyfwy fel roedd yr arbrawf yn mynd yn ei flaen, ac yn dod allan pan o'n i ddim yn ei ddisgwyl. Er enghraifft, roeddwn yn darllen hen eiriau Rwsieg i gôr yma, ac er nad o'n i'n gwybod y geiriau i gyd wnes i gario mlaen - do'n i ddim eisiau siomi fy hunaniaeth.

Hefyd, ro'n i'n eistedd yn yr eglwys efo dim byd dros fy mhen gan deimlo'n anghyfforddus gan fod yna draddodiad yn Rwsia i ferched orchuddio eu gwallt tra mewn eglwys.

Image caption Jana (ar y chwith) wrth ei bodd ar noson allan yng Nghaerdydd

Doedd fy ngwaith ddim i fod i ateb y cwestiwn os oes modd newid huaniaeth genedlaethol neu beidio. Wrth weithio ar y prosiect ro'n i'n meddwl am y ffordd mae hunaniaeth genedlaethol yn cael ei ffurfio yn gyffredinol, sut 'da ni'n dychmygu ein cymunedau fel rhywbeth sydd ddim yn bodoli ar hyn o bryd, ond yn hytrach fel rhywbeth delfrydol i'r dyfodol.

Oes 'na wahaniaeth rhwng croesawu a derbyn rhywun? Sut y gallwn ni wynebu ein hunaniaeth genedlaethol? Dyma'r pethau dwi'n gobeithio y bydd pobl yn ei ystyried wrth edrych ar fy ngwaith.