Agor Cae Coffa Cymru yng Nghaerdydd

Cae coffa Caerdydd

Mae safle er cof am filwyr Prydeinig fu farw ers y Rhyfel Byd Cyntaf wedi agor yng Nghastell Caerdydd.

Mae mwy na 10,000 o gofebau a theyrngedau wedi eu gosod yng Nghae Coffa Cenedlaethol Cymru, fydd ar agor hyd at 19 Tachwedd.

Mae 2016 hefyd yn ganrif ers Brwydr Coedwig Mametz yn y Somme.

Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ddarllen cerdd gan Owen Sheers, Mametz Wood, mewn seremoni agoriadol ddydd Mercher.

Hefyd yn y seremoni, roedd darlleniad gan weinidog Swyddfa Cymru, Guto Bebb, a munud o dawelwch.

Mae pob un o'r cofebau sydd wedi eu plannu yn cynnwys teyrnged bersonol i'r rhai fu farw.

Mae'r Cae Coffa yng Nghaerdydd yn un o chwe safle ar draws y DU.