Annog cynghorau i fod yn fwy mentrus wrth godi arian

cynghorau Image copyright Cyngor Caerdydd
Image caption Fe allai Cynllun Ynni Dŵr Cored Radur wneud elw drwy greu ynni gwyrdd

Fe allai cynghorau lleol wneud mwy i godi arian drwy daliadau a thorri costau, medd corff gwarchod ar wariant cyhoeddus.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru'n annog cynghorau i fod yn fwy uchelgeisiol wrth roi gwaith i gwmnïau preifat a chaniatáu i bobl dalu am wasanaethau ar-lein neu dros y ffôn.

Mewn adroddiad, fe gyfaddefodd archwilwyr fod yna gymhlethdodau cyfreithiol a chwestiynau am allu'r cyhoedd i dalu.

Dywedodd llefarydd ar ran y cynghorau ei bod yn anodd gofyn i drigolion oedd eisoes yn wynebu caledi i dalu am fwy o wasanaethau.

Cyfleoedd newydd

Mae'r adroddiad yn annog cynghorau i fanteisio ar gyfleoedd newydd i godi arian o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i wella'r gwaith o gasglu ac asesu'r wybodaeth ar newidiadau.

Yn ogystal â newidiadau, mae'n cyfeirio at amrywiaeth o syniadau codi arian gan awdurdodau yng Nghymru a Lloegr:

  • Caerdydd - Cynllun Ynni Dŵr Cored Radur i greu ynni gwyrdd o Afon Taf
  • Powys - mae talu am ginio ysgol trwy gardiau clyfar wedi arwain at gynnydd o £70,000 y flwyddyn mewn refeniw
  • Bro Morgannwg - penodi swyddog masnachol i ymchwilio i gytundebau gyda chwmnïau all gynnig gweithgareddau awyr agored
  • Dwyrain Sir Gaer - cwmniau sy'n eiddo i'r cyngor sydd bellach yn gyfrifol am gasglu biniau a glanhau strydoedd, a hynny ar elw

Roedd canmoliaeth hefyd i'r camau o gyflwyno dulliau haws i bobl dalu am wasanaethau.

"Mae defnydd technoleg ar gynydd, ond ddim ym mhobman," medd yr adroddiad.

"Mae ei gyflwyno yn aml yn dibynnu ar gael system newydd sydd ddim yn costio mwy na'r dulliau casglu incwm traddodiadol."

Image copyright Google
Image caption Mae llai yn defnyddio meysydd parcio yn Sir Benfro ers i'r cyngor ddechrau codi tâl

Ychwanegodd yr adroddiad fod rhai aelodau cabinet cynghorau yn "amharod i ddelio gyda materion allai fod yn ddadleuol, ac na fyddan nhw'n cymeradwyo cyflwyno neu gynyddu tâl, hyd yn oed pan fo'r dystiolaeth dros wneud hynny'n ddigamsyniol."

Mae'n dweud bod angen ystyried effaith codi tâl mewn meysydd eraill.

Ymhlith yr enghreifftiau roedd codi tâl am barcio, sy'n gallu cadw pobl ac ymwelwyr draw o ganol trefi, a chynyddu rhent caeau chwaraeon, sy'n gallu bod yn niweidiol i'r ymdrechion i hyrwyddo pobl rhag cadw'n heini.

Dewisiadau anodd

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod y 22 cyngor yn wynebu diffyg o £192m yn 2017/18 a fydd yn cynyddu i £543m erbyn 2019/20

"Bydd pob cyngor yn wynebu dewisiadau anodd ar flaenoriaethu gwasanaethau a chyflwyno toriadau pellach," meddai.

"Yr argraff y mae'r adroddiad hwn gan Swyddfa Archwilio Cymru yn ei roi yw bod modd gofyn i drigolion dalu mwy, sydd ddim wastad yn briodol."

Ychwanegodd: "Mae rheoliadau'r Llywodraeth yn golygu fod cap ar lawer o'r taliadau a dyw'r pwerau sydd ar gael mewn ardaloedd eraill yn y DU ddim gan gynghorau yng Nghymru ar hyn o bryd, felly mae'r 'opsiynau i greu incwm' yn gyfyng."

Biliau treth

Wrth ymateb i'r argymhellion, dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar lywodraeth leol, Janet Finch-Saunders:

"Allai'r argymhellion yma ddim â dod ar amser gwaeth i drigolion sy'n wynebu biliau uwch a llai o wasanaethau.

"Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae biliau treth cyngor wedi codi £800 ar gyfartaledd, a fedra' i ddim gweld lle bydd teuluoedd yn dod o hyd i'r arian ychwanegol.

"Yn amlwg, mae awdurdodau lleol yn wynebu penderfyniadau ariannol anodd, ond allwn ni ddim trosglwyddo'r cyfrifoldeb i dalwyr trethi."