Swyddi yn y fantol wrth i gwmni symud swyddfa o dde Cymru

Crabtree & Evelyn Image copyright Google
Image caption Canolfan ddosbarthu Crabtree & Evelyn

Mae cwmni manwerthu wedi cyhoeddi y bydd yn trosglwyddo gwasanaethau ac yn symud swyddfa o Rondda Cynon Taf.

Dywed Crabtree & Evelyn y bydd gwasanaethau dosbarthu a phecynnu yng nghanolfan y cwmni ym Mhont-Y-Clun yn cael eu rhedeg gan gwmni arall o Northampton o fis Ebrill 2017.

Bydd y swyddfa gwasanaethau cefnogol yn symud o Bont-Y-Clun i Lundain. Mae Crabtree & Evelyn yn cyflogi 54 o weithwyr ar y safle yn y de.

Ychwanegodd y cwmni ei fod mewn trafodaethau gyda staff am "drosglwyddo cyflogaeth" ac "adleoli swyddi".

Dywedodd fod y gwaith o ymgynghori yn parhau a'i fod yn canolbwyntio ar "gefnogi staff".