Pêl-droediwr yn colli apêl am frathu chwaraewr arall

Paul Bignot Image copyright Huw Evans Agency

Mae un o chwaraewyr pêl-droed Casnewydd wedi colli apêl yn erbyn gwaharddiad am frathu gwrthwynebydd.

Cafodd yr amddiffynnwr Paul Bignot ddirwy o £600 a rhybudd wedi'r digwyddiad yn ystod gêm yn erbyn Cheltenham Town fis Medi.

Fe gafodd waharddiad am chwe gêm, ond cafodd y gwaharddiad ei ohirio gan ei fod yn apelio, ac fe chwaraeodd i Gasnewydd yn erbyn AFC Wimbledon nos Fawrth.

Cafodd gwrandawiad ei gynnal ddydd Mercher ar gais Bignot, ond fe wrthodwyd ei apêl ac fe fydd ei waharddiad yn dechrau yn syth.

Fe gafodd Joss Labadie, chwaraewr arall i Gasnewydd ei wahardd am chwe mis am frathu pan oedd yn chwarae i glwb Dagenham and Redbridge.

Dyw Casnewydd ddim wedi colli eu pedair gêm ddiwethaf o dan arweiniad eu rheolwr newydd, Graham Westley.