Dim pabi coch ar grysau pêl-droed Cymru yn erbyn Serbia

Bale Image copyright Getty Images
Image caption Roedd y chwaraewyr yn gwisgo rhwymyn du er cof am Mel Charles yn y gêm ddiwethaf yn erbyn Georgia

Bydd chwaraewyr tîm pêl-droed Cymru yn gwisgo rhwymyn du ar eu breichiau yn ystod eu gêm yn erbyn Serbia nos Sadwrn, yn dilyn ffrae dros ddefnydd pabïau coch ar grysau.

Roedd y corff sy'n rheoli pêl-droed rhyngwladol, FIFA, wedi gwrthod cais gan y Gymdeithas Bêl-droed i roi darlun o babi coch ar grysau'r tîm, er cof am filwyr sydd wedi marw ers y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae FIFA yn gwrthod caniatáu unrhyw symbolau sy'n cael eu hystyried yn wleidyddol ar grysau timau cenedlaethol.

Bydd Cymru yn herio Serbia yn rownd rhagbrofol Cwpan y Byd yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Sadwrn.

'Parchu rheolau'

Mae'r pabi coch yn cael ei ystyried fel symbol gwleidyddol gan FIFA, ond roedd y gymdeithas yn dadlau bod cynsail wedi'i osod yn 2011 pan wnaeth chwaraewyr wisgo pabi coch ar rwymyn du o amgylch y fraich.

Fe wnaeth y gymdeithas gais i FIFA, ond cafodd ei wrthod gan y corff rheoli.

Yn hytrach, dywedodd y gymdeithas y byddai pob chwaraewr yn gwisgo rhwymyn du plaen ar eu crysau, a bydd mosaig o babi yn cael ei greu gan gefnogwyr mewn un eisteddle.

Ychwanegodd y gymdeithas y bydd y chwaraewyr yn ymweld â chofeb rhyfel ar 13 Tachwedd, y diwrnod wedi'r gêm.

Dywedodd Prif Weithredwr y Gymdeithas Bêl-droed, Jonathan Ford, bod rhaid "parchu rheolau FIFA".

"Roedden ni'n teimlo nad oedden ni'n gallu mentro gyda'r perygl o ddirwy ariannol neu golli pwyntiau," meddai.

"Fel yr ydym yn ei wneud bob tro yr adeg yma o'r flwyddyn, byddwn yn cofio mewn ffyrdd gwahanol."